Darllenwch y darn hwn, sy’n dadlau yn erbyn denu twristiaid i weld rhyfeddodau naturiol.
Mae perygl gwirioneddol o ddenu twristiaid i weld rhyfeddodau naturiol. Y perygl hwnnw yw y byddwn yn dinistrio’r union bethau rydyn ni eisiau rhyfeddu atyn nhw. Gyda mwy a mwy o dwristiaid yn chwilio am brofiadau unigryw, bythgofiadwy, gallai’r pwysau fynd yn drech na’r rhyfeddodau naturiol.
Mae’r ‘rhestr bwced’ yn boblogaidd iawn – rhestr o bethau y mae person eisiau eu gweld neu gael profiad ohonyn nhw cyn marw – cyn ‘cicio’r bwced’, a chyfieithu idiom Saesneg. Er bod y rhestri hyn yn aml yn cynnwys adeiladau ac amgueddfeydd, mae rhyfeddodau naturiol hefyd yn amlwg iawn arnyn nhw.
Mae gan rai pobl ym mhedwar ban y byd fwy a mwy o arian i’w wario ar deithio. Felly, y duedd yw chwilio am fannau mwy anghysbell a diarffordd i fynd iddyn nhw – mannau a fydd yn creu argraff ar deithwyr eraill. Ond dydy’r rhyfeddod naturiol ei hun ddim yn ddigon, wrth gwrs, gan fod angen seilwaith hefyd. Rhaid cael ffyrdd da i gyrraedd y rhyfeddod, meysydd parcio, gwesty neu gaffi, siop sy’n gwerthu sothach (fel arfer), ac ati, ac ati. Felly, mae’r ardal o amgylch y rhyfeddod naturiol yn cael ei ddifetha – am byth.
Ystyriwch y ffaith hon: yn 2015, ymwelodd 851,314 o bobl â Sarn y Cawr, yng Ngogledd Iwerddon. Dyna dros wyth gan mil o bobl yn cerdded dros y tirlun arbennig hwn. Ydy hyn yn gynaliadwy? Rwy’n amau’n fawr.
Ond does dim rhaid teithio mewn gwirionedd. Gyda’r datblygiadau technolegol diweddaraf, mae’n bosibl cael profiad o ryfeddodau naturiol heb adael eich cartref. Dydw i ddim yn sôn am wylio fideo, ond yn hytrach rhith-wirionedd. Mae rhai apiau i’w cael nawr, er enghraifft, rhai Google Earth, sy’n gallu mynd â chi ar amrantiad i weld rhaeadrau uchaf y byd, ‘Angel Falls’ yn Venezuela. Drwy rith-wirionedd 360°, byddwch chi’n teimlo fel petaech chi’n hedfan mewn hofrennydd i’w weld. Felly, fyddwch chi ddim yn tarfu ar y jyngl a’r holl rywogaethau prin sy’n byw yno. Dyna dwristiaeth gynaliadwy, heb gydwybod euog.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
mynd yn drech na | mynd yn ormod i | (to) become too much for |
diarffordd | pell o bob man | remote |
seilwaith | pethau fel ffyrdd, pontydd, ac ati | infrastructure |
cynaliadwy | yn gallu cael ei gadw i fynd | sustainable |
yn hytrach | yn lle hynny | rather, instead |
ar amrantiad | yn gyflym iawn | in a twinkling of an eye |
rhith-wirionedd | gweld rhywbeth fel petai'n go iawn, drwy ben-set | virtual reality |
rhywogaethau | mathau o greaduriaid byw | species |
cydwybod | y gallu i weld y gwahaniaeth rhwng da a drwg | conscience |