Ar arfordir Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd bod cymylau o blancton yn creu golau glas disglair.
Gwyliwch y fideo yma, ac edrychwch ar y lluniau yn y linc oddi tano.
Cyn darllen y darn isod, trafodwch:
Bioymoleuedd
Miliynau o blancton sy’n creu’r golau glas disglair. Mae’r fideo gan Kris Williams o Fiwmares yn dangos hyn ym Mhenmon, Ynys Môn. Mae’r lluniau o draeth Aberafan yn dangos hyn.
Beth yw bioymoleuedd?
Mae edrych ar ddarnau o’r gair yn ein helpu:
bio = bywyd
ym = ‘ei hun’, fel sydd yn ‘ymolchi’ ac ‘ymddangos’
oleu = golau (mae ‘lleu’ hefyd mewn geiriau fel ‘lleuad’ a’r enw ‘Lleu’)
Dydy’r plancton ddim yn goleuo drwy’r amser. Yn ystod y dydd, mae’n edrych yn frowngoch, ychydig fel rhwd, ond yn ystod y nos, pan fydd y dŵr yn cael ei symud mewn rhyw ffordd, mae’n goleuo.
Mae’r plancton yn cynhyrchu golau er mwyn ei amddiffyn ei hun; mae’n ceisio denu ysglyfaethwyr at beth bynnag sy’n ceisio ei fwyta. Mae’n defnyddio cemegyn o’r enw lwsifferin i gynhyrchu’r golau.
Pryd mae bioymoleuedd yn digwydd?
Fel arfer, mae’n digwydd yn y trofannau, lle mae’r dŵr bob amser yn gynnes. Ond, gyda newid hinsawdd, wrth i dymheredd y dŵr godi, mae’r ffenomen naturiol hon i’w gweld hefyd ar lan y môr yng Nghymru.
Yn ystod cyfnod poeth iawn, fel digwyddodd yn haf 2018, mae dŵr cynnes y môr yn lle delfrydol i’r plancton dyfu. Mae’r diwrnodau heulog hir yn rhoi’r egni sydd ei angen er mwyn goleuo yn y nos.
Felly, mae’n debygol iawn y byddwn ni’n gweld mwy a mwy o olau glas disglair y plancton yng Nghymru yn y dyfodol!
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
bioymoleuedd | golau sy'n cael ei gynhyrchu gan bethau byw fel plancton, pysgod neu bryfed tân | bioluminescence |
ysglyfaethwr (ysglyfaethwyr) | anifail sy'n bwyta anifail arall, anifail ysglyfaethus | predator(s) |
rhwd | haen goch sy'n ffurfio ar haearn oherwydd ocsidiad | rust |
trofannau | yr ardal rhwng Trofan Cancr a Throfan Capricorn | tropics |