Sarn y Cawr, Gogledd Iwerddon

Rhifyn 59 - Ffenomenau naturiol
Sarn y Cawr, Gogledd Iwerddon
Sarn y Cawr, Gogledd Iwerddon

Ble? Yn Swydd Antrim, ar arfordir gogleddol y wlad.

Beth? Tua 40,000 mil o golofnau basalt.

Pam? Ffurfion nhw ar ôl ffrwydrad folcanig tua 50 i 60 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Sut? Oerodd y lafa, hollti a ffurfio colofnau.

Beth yw siâp y colofnau? Hecsagonau yw'r rhan fwyaf o'r colofnau, ond mae rhai sydd â phedwar, pump, saith neu wyth ochr.

Pa mor uchel ydyn nhw? Mae'r talaf tua 12 meter.

Ymweld? Gallwch chi ymweld â Sarn y Cawr. Mae caffi yno hefyd.

Chwedl Sarn y Cawr

Yn ôl y chwedl, penderfynodd Fionn mac Cumhaill, cawr o Ogledd Iwerddon, adeiladu sarn er mwyn mynd i ymladd â Benandonner, cawr o’r Alban, 25 milltir i ffwrdd. Adeiladodd Benandonner sarn hefyd, fel bod y ddau’n gallu cwrdd yn y canol.

Gwelodd Fionn fod Benandonner yn llawer mwy nag ef, felly rhedodd yn ôl i’r arfordir. Doedd e ddim eisiau ymladd ag e. Cafodd gwraig Fionn syniad. Gwisgodd hi Fionn fel baban. Pan welodd Benandonner y baban, roedd e’n meddwl – os yw’r baban mor fawr â hyn, rhaid bod Fionn, ei dad, yn anferth! Felly, penderfynodd redeg yn ôl i’r Alban a chwalu’r sarn fel bod Fionn yn methu rhedeg ar ei ôl.

Mae colofnau sy’n union yr un fath ar ynys Staffa yn yr Alban, felly efallai mai dyna pam mae’r chwedl wedi tyfu am y ddau gawr.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
basalt craig arbennig basalt
ffrwydrad pan mae rhywbeth yn ffrwydro explosion
hollti torri (to) split
sarn(au) ffordd wedi'i chodi i groesi dŵr causeway(s)
chwalu torri, tynnu i lawr (to) destroy, pull down