Oes rhywun wedi bod i weld y ffynnon ’ma yn Swydd Efrog, sy’n troi popeth yn garreg? Dw i’n credu mai’r ‘Petrifying Well’ yw’r enw Saesneg arni hi.
Bues i unwaith pan o’n i yn yr ysgol gynradd, falle. Mae’n eitha diddorol.
Beth sy'n digwydd, felly?
Mae gwrthrychau’n cael eu hongian o dan y ffynnon. Wrth i’r dŵr ddiferu dros y gwrthrychau, maen nhw’n caregu.
Sut mae hynny’n digwydd?
Dw i wedi clywed bod y dŵr yn dod o lyn tanddaearol . Mae’n dod i’r wyneb ac yn hydoddi mwynau ar y ffordd. Wedyn, mae’n arllwys i lawr eto ac mae’n ffurfio darnau o graig.
Ie, calsiwm carbonad a sodiwm swlffad yw’r mwynau, dw i’n meddwl. Does dim unrhyw ddŵr yn Ewrop sydd â mwy o fwynau, mae’n debyg.
Mae llawer o ddŵr yn arllwys i lawr – 3,000 litr yr awr.
Hyd yn oed os ydyn ni’n cael haf sych?
Does dim gwahaniaeth sut mae’r tywydd, achos bod y llyn tanddaearol yn enfawr.
Waw! Beth am y broses o garegu ’te? Faint o amser mae’n ei gymryd?
Ddim yn hir – mae’n cymryd rhwng tri a phum mis i garegu tedi bach. Maen nhw’n eu gwerthu nhw yn y siop.
O, bechod! Mae’r broses yn swnio’n debyg i broses creu stalactidau, felly?
Ydy, ond ei bod hi’n llawer cyflymach achos bod cymaint o fwynau yn y dŵr. Mae’n cymryd amser hir iawn i stalactidau ‘dyfu’.
Dw i’n cofio gweld pethau o oes Victoria yno – hetiau dynion a menywod. Maen nhw’n rhan o’r graig erbyn hyn.
Mae’r amgueddfa’n werth ei gweld hefyd. Maen nhw’n arddangos pethau fel bag llaw Agatha Christie ac un o hetiau John Wayne, yr actor.
Yn oes Victoria, mae’n debyg eu bod nhw’n arfer hongian pethau fel wigiau ac anifeiliaid marw – ych a fi!
Mae’n swnio’n ddiddorol dros ben!
Mae’r lle’n denu tipyn o ymwelwyr, dw i’n meddwl, ond mae’n bosibl cael syniad eitha da drwy wylio ambell fideo ar y we a bod yn onest.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
caregu | troi'n gareg | (to) petrify |
diferu | dafnau bach o ddŵr yn syrthio | (to) drip |