Beth sy’n achosi Goleuni’r Gogledd?
Er mwyn deall beth sy’n achosi Goleuni’r Gogledd, mae angen deall beth sy’n digwydd yn yr haul, a hefyd deall am faes magnetig y Ddaear.
Yr haul
Pelen o hydrogen a nwyon eraill yw’r haul. Mae tua 93 miliwn o filltiroedd, neu 150 miliwn o gilometrau, o’r Ddaear.
Yn yr haul, mae atomau hydrogen yn bwrw yn erbyn ei gilydd ac yn creu ymasiad niwclear. Weithiau, mae gronynnau wedi’u gwefru yn saethu allan o’r haul ac yn creu fflach solar. Wedyn, mae’r gronynnau’n teithio drwy’r gofod am ddau ddiwrnod, tua 93 miliwn o filltiroedd, nes cyrraedd y Ddaear.
Maes magnetig y Ddaear
Mae maes magnetig yn amddiffyn y Ddaear, ond mae’n llai cryf ym mhegwn y gogledd a phegwn y de. Felly, mae rhai o’r electronau sy’n dod o’r haul yn llwyddo i gyrraedd atmosffer y Ddaear. Wrth wneud hyn, maen nhw’n gwrthdaro â’r atomau ocsigen a nitrogen sydd yn atmosffer y Ddaear. Mae’r atomau hyn yn cynhyrfu, ac maen nhw’n rhyddhau ynni ar ffurf goleuni.
Sut mae’r Goleuni’n edrych?
Mae’r Goleuni’n edrych fel llenni neu donnau, oherwydd eu bod nhw’n dilyn y llinellau grym ym maes magnetig y Ddaear.
Pam mae lliwiau gwahanol i Oleuni’r Gogledd?
Nwyon gwahanol sy’n rhoi’r lliwiau gwahanol.
Ble mae’r lleoedd gorau i weld Goleuni’r Gogledd?
Pryd mae Goleuni’r Gogledd ar ei orau?
Pa amodau tywydd sydd orau?
Beth am Oleuni’r De?
Mae goleuni tebyg i’w gweld yn yr Antarctig – Aurora Australis yw’r enw arno.
Roedd yr Inuit yn meddwl mai ysbryd eu hynafiaid yn dawnsio, neu fabanod oedd wedi marw, oedd Goleuni’r Gogledd.
Roedd y Llychlynwyr yn credu mai pont o dân i’r nefoedd wedi’i chreu gan y duwiau oedd y goleuni.
Mae stori o’r Ffindir yn dweud mai cynffon llwynog yr Arctig wrth fwrw eira oddi ar y mynyddoedd sy’n creu’r Goleuni.
Roedd yr Albanwyr yn meddwl mai dawnswyr, neu ryfelwyr yn ymladd, neu angylion yn syrthio i’r Ddaear oedd y Goleuni.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
ymasiad niwclear | pan fydd niwclysau atomig yn dod at ei gilydd i ffurfio niwclews trymach, a rhyddhau ynni | nuclear fusion |
groynyn(nau) | darn bach, bach o rywbeth | particle(s) |
gwefru | rhoi trydan i rywbeth | (to) charge |
fflach solar | goleuni disglair sy'n dod o'r haul | solar flare |
gwledydd Llychlyn | Norwy, Sweden a'r Ffindir | Scandinavian countries |
anghysbell | pell i ffwrdd, o'r neilltu | remote |
amodau tywydd | sut mae'r tywydd | weather conditions |
hynafiad (hynafiaid) | un o'r hen bobl | ancestor(s) |