Ble mae ogofâu Dan yr Ogof?
Mae Dan yr Ogof ger Abercraf, yng Nghwm Tawe uchaf. Enw fferm oedd Dan yr Ogof yn wreiddiol. Mae afon Llynfell yn dod allan o’r graig ger y fferm. Mae’r ogofâu ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Beth yw hanes yr ogofâu?
Tommy a Jeff Morgan, dau frawd lleol, ddaeth o hyd i’r ogofâu yn 1912.
Beth welodd Tommy a Jeff Morgan?
Gwelon nhw stalagmidau a stalactidau. Doedd dim tortsh gyda nhw, dim ond canhwyllau. Ar ôl cerdded am dipyn, gwelon nhw fod llyn o dan y ddaear. Doedden nhw ddim yn gallu croesi’r llyn, felly aethon nhw allan o’r twnnel eto.
Sut daethon nhw o hyd i’r ffordd allan?
Roedden nhw wedi gwneud arwyddion yn y tywod ar y ffordd i mewn.
Beth wnaeth y brodyr Morgan wedyn?
Y tro nesaf, daeth y brodyr Morgan â dau gwrwgl gyda nhw i groesi’r llyn, ond nid dim ond un llyn groeson nhw, ond pedwar. Gwelon nhw lawer o dwneli, ceudyllau a siambr fawr. Wedyn, aeth y llwybr yn gyfyng iawn a doedden nhw ddim yn gallu mynd ymhellach.
Beth ddigwyddodd wedyn?
Yn 1963, aeth Eileen Davies, merch leol, drwy’r llwybr cyfyng a gweld bod llawer mwy o ogofâu. Mae dros 10 milltir o ogofâu i gyd.
Ydy hi’n bosibl ymweld â’r ogofâu?
Ydy, rydych chi’n gallu dilyn llwybr o gwmpas yr ogofâu. Dyma rai o’r pethau mwyaf arbennig sydd i’w gweld:
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
stalagmid(au) | colofn neu dwmpath sy'n codi o lawr ogof | stalagmite(s) |
stalactid(au) | pigyn sy'n hongian o do ogof | stalactite(s) |
cwrwgl (cyryglau) | cwch bach â gwaelod crwn - maen nhw'n cael eu defnyddio i bysgota ar afon Teifi ac afon Tywi | coracle(s) |
ceudwll (ceudyllau) | twll mawr iawn - gallwch chi sefyll ynddo fe | cavern(s) |
cyfyng | cul, heb lawer o le | narrow |
dagr | darn o fetel miniog. Mae'n gallu cael ei ddefnyddio i ladd rhywun | dagger |