Ogofâu Dan yr Ogof

Rhifyn 59 - Ffenomenau naturiol
Ogofâu Dan yr Ogof

Ble mae ogofâu Dan yr Ogof?

Mae Dan yr Ogof ger Abercraf, yng Nghwm Tawe uchaf. Enw fferm oedd Dan yr Ogof yn wreiddiol. Mae afon Llynfell yn dod allan o’r graig ger y fferm. Mae’r ogofâu ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

 

Beth yw hanes yr ogofâu?

Tommy a Jeff Morgan, dau frawd lleol, ddaeth o hyd i’r ogofâu yn 1912.

 

Beth welodd Tommy a Jeff Morgan?

Gwelon nhw stalagmidau a stalactidau. Doedd dim tortsh gyda nhw, dim ond canhwyllau. Ar ôl cerdded am dipyn, gwelon nhw fod llyn o dan y ddaear. Doedden nhw ddim yn gallu croesi’r llyn, felly aethon nhw allan o’r twnnel eto.

 

Sut daethon nhw o hyd i’r ffordd allan?

Roedden nhw wedi gwneud arwyddion yn y tywod ar y ffordd i mewn.

 

Beth wnaeth y brodyr Morgan wedyn?

Y tro nesaf, daeth y brodyr Morgan â dau gwrwgl gyda nhw i groesi’r llyn, ond nid dim ond un llyn groeson nhw, ond pedwar. Gwelon nhw lawer o dwneli, ceudyllau a siambr fawr. Wedyn, aeth y llwybr yn gyfyng iawn a doedden nhw ddim yn gallu mynd ymhellach.

 

Beth ddigwyddodd wedyn?

Yn 1963, aeth Eileen Davies, merch leol, drwy’r llwybr cyfyng a gweld bod llawer mwy o ogofâu. Mae dros 10 milltir o ogofâu i gyd.

 

Ydy hi’n bosibl ymweld â’r ogofâu?

Ydy, rydych chi’n gallu dilyn llwybr o gwmpas yr ogofâu. Dyma rai o’r pethau mwyaf arbennig sydd i’w gweld:

  • Rhaeadr wedi rhewi – mae’r graig yn edrych fel rhaeadr. Mae’n 7m o led ac yn 3m o uchder.
  • Piler Alabaster – mae stalagmid a stalactid wedi tyfu at ei gilydd i greu piler dros 2m o uchder.
  • Darn o facwn – mae’r stalactid yn edrych fel darn o facwn, oherwydd bod darnau o haearn yn y graig yn gwneud iddo edrych yn goch.
  • Dagr – mae’r graig yn edrych fel dagr.
  • Angel – yma, mae’r graig yn edrych fel angel.
  • Ogof yr Esgyrn – mae hon yn cynnwys esgyrn, gemwaith arian ac efydd a darnau o grochenwaith Rhufeinig.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
stalagmid(au) colofn neu dwmpath sy'n codi o lawr ogof stalagmite(s)
stalactid(au) pigyn sy'n hongian o do ogof stalactite(s)
cwrwgl (cyryglau) cwch bach â gwaelod crwn - maen nhw'n cael eu defnyddio i bysgota ar afon Teifi ac afon Tywi coracle(s)
ceudwll (ceudyllau) twll mawr iawn - gallwch chi sefyll ynddo fe cavern(s)
cyfyng cul, heb lawer o le narrow
dagr darn o fetel miniog. Mae'n gallu cael ei ddefnyddio i ladd rhywun dagger