Y Drws i Uffern, Turkmenistan

Rhifyn 59 - Ffenomenau naturiol
Y Drws i Uffern, Turkmenistan

"Y drws i uffern", diffeithwch Karakum, Turkmenistan

Roedd drilio mawr yn digwydd yn ardal Karakum;

am olew ro’n nhw’n chwilio, ac yna’n sydyn – BWWWM!

Fe ddriliodd un o’r rigiau i geudwll mawr, llawn nwy.

I lawr â’r rig fel carreg; gollyngodd mwy a mwy

o’r nwyon cas a ffiaidd, doedd dim byd nawr i’w wneud

ond tanio hwnnw’n sydyn, heb ddewis i’w ddadwneud.

 

Un naw saith un oedd hynny, a thân sydd yno o hyd.

Daw pobl draw i’w weld e o bedwar ban y byd.

Cewch fynd mewn jîp neu gamel liw dydd, neu’n wir liw nos

i weld diffeithdir anial yn troi yn ardal dlos.

 

Mae’n debyg na ddaw’r llosgi i ben am amser hir;

ymyrraeth dyn â natur yw’r broblem, dyna’r gwir.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
ffiaidd drewllyd, diflas foul, disgusting
tanio cynnau rhywbeth (to) light (a fire)
dadwneud newid pethau i fod fel roedden nhw cyn i chi wneud rhywbeth (to) undo
ymyrraeth busnesa, torri ar draws rhywbeth meddling