Mae 2012 yn flwyddyn arbennig - mae hi'n flwyddyn naid.
Mae'r ddaear yn cymryd 365 diwrnod, 6 awr i fynd o gwmpas yr haul. Heb y diwrnod ychwanegol bob pedair blynedd, bydden ni'n colli chwarter diwrnod y flwyddyn. Felly, mae'r flwyddyn naid yn cywiro'r calendr.
Mae pobl sy'n cael eu geni ar 29 Chwefror fel arfer yn dathlu eu pen-blwydd ar 28 Chwefror neu 1 Mawrth. Mae rhai pobl yn dweud eu bod nhw chwarter yr oedran ydyn nhw - e.e. pan maen nhw'n 28 oed, maen nhw dathlu eu 7fed pen-blwydd - felly maen nhw'n dweud eu bod nhw'n 7 oed!
Mae'r Gemau Olympaidd yn digwydd mewn blwyddyn naid fel arfer.
Os ydych chi'n gallu rhannu'r flwyddyn â 4, mae hi'n flwyddyn naid, e.e. 2004, 2008.
· Gan fod blynyddoedd naid yn fwy prin na blynyddoedd arferol, mae llawer o bobl yn credu eu bod yn arwydd o lwc dda.
· Ond yn yr Alban roedd pobl yn arfer credu bod cael eich geni ar 29 Chwefror yn anlwcus iawn.
· Ym Mhrydain, mae'n draddodiad bod merched dim ond yn cael gofyn i ddynion eu priodi nhw ar 29 Chwefror!
· Yng ngwlad Groeg, does neb yn hoffi priodi mewn blwyddyn naid achos maen nhw'n meddwl ei bod hi'n anlwcus.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
blwyddyn naid | blwyddyn sydd â 366 diwrnod | leap year |
ychwanegol | rhywbeth yn fwy | extra |
cywiro | newid camsyniadau | to correct |
fel arfer | - | usually |
traddodiadau | pethau mae pobl yn eu gwneud ers blynyddoedd | traditions |