Y Cloc Mawr

Rhifyn 6 - Amser
Y Cloc Mawr

Mae mewn gwth o oedran erbyn hyn, h3_1.jpg

yr hen gloc mawr

a dreulia'i amser yn cerdded,

gan bwyll, gan bwyll,

fel milwr disgybledig.

Nid oeda nawr ac yn y man

yn oriog fel ni;

dalia ati'n ddygn

a thician tician ei bendil

yn guriad cyson yn y cefndir.

 

Bob hyn a hyn mae'n taro,

a'r twrw'n annisgwyl

pan gyfyd ei gloch yn groch

yn oriau mân y bore.

 

Yn hwyr neu'n hwyrach

diffygia a stopio'n stond.

Rhaid ei weindio'n llafurus

i godi'i bwysau o bydew ei gas.

Wedyn, cerdda eto'n dalog

gan bwyll, gan bwyll

trwy gydol y dydd a'r nos.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
mewn gwth o oedran yn hen iawn -
disgybledig dan reolaeth disciplined
oriog anghyson, newid o hyd flickle
dygn gydag ymdrech persevering
pendil rhoden a phwysau ar un pen pendulum
curiad ergyd, trawiad beat
cyfyd mae'n codi -
diffygio blino, methu fail
llafurus anodd, caled laborious
pydew ffynnon well, pit
talog hyderus confident