Ddiwedd 2011, collodd Samoa ddiwrnod, sef 30 Rhagfyr 2011. Neidion nhw'n syth o 29 Rhagfyr i 31 Rhagfyr. Felly, roeddech chi'n anlwcus iawn os oeddech chi'n byw ar yr ynysoedd ac yn dathlu eich pen-blwydd ar 30 Rhagfyr.
Mae Samoa hanner ffordd rhwng Seland Newydd a Hawaii. Ym mis Mai 2011, penderfynon nhw groesi'r Ddyddlinell fel eu bod nhw'r un diwrnod ag Awstralia a Seland Newydd.
Ers 119 mlynedd, roedden nhw wedi bod yr un diwrnod ag Unol Daleithiau America (UDA). Ond maen nhw'n masnachu mwy gydag Awstralia a Seland Newydd. Roedd y Ddyddlinell yn gwneud pethau'n anodd iddyn nhw:
• Pan oedd hi'n ddydd Gwener yn Samoa, roedd hi'n ddydd Sadwrn yn Awstralia a Seland Newydd.
• Wedyn, pan oedd hi'n ddydd Sul yn Samoa, roedd hi'n ddydd Llun yn Awstralia a Seland Newydd.
Felly, dim ond ar ddyddiau Mawrth, Mercher ac Iau roedden nhw'n gallu cysylltu â phobl eraill mewn swyddfeydd. Hefyd, mae llawer o bobl o Samoa wedi mynd i fyw i Seland Newydd, felly roedd hi'n anodd i deuluoedd drefnu i gwrdd â'i gilydd.
Mae'r Ddyddlinell yn rhedeg o'r gogledd i'r de ar hyd llinell hydred 180 gradd yn y Môr Tawel.
Llinell ddychmygol yw hi - hynny yw, dydy hi ddim yno go iawn.
Dydy hi ddim yn hollol syth chwaith. Weithiau mae hi'n gwyro i'r chwith neu i'r dde fel nad yw hi'n croesi tir a hefyd fel bod grŵp o ynysoedd gyda'i gilydd yn yr un diwrnod.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
Dyddlinell (eb) | y llinell rhwng dau ddiwrnod | International Date Line |
masnachu | prynu a gwerthu | to trade |
cysylltu â | - | to get in contact with |
dychmygol | mewn llun yn y meddwl | imaginary |
gwyro | plygu | to deviate |