Mae mewn gwth o oedran erbyn hyn, 
yr hen gloc mawr
a dreulia'i amser yn cerdded,
gan bwyll, gan bwyll,
fel milwr disgybledig.
Nid oeda nawr ac yn y man
yn oriog fel ni;
dalia ati'n ddygn
a thician tician ei bendil
yn guriad cyson yn y cefndir.
Bob hyn a hyn mae'n taro,
a'r twrw'n annisgwyl
pan gyfyd ei gloch yn groch
yn oriau mân y bore.
Yn hwyr neu'n hwyrach
diffygia a stopio'n stond.
Rhaid ei weindio'n llafurus
i godi'i bwysau o bydew ei gas.
Wedyn, cerdda eto'n dalog
gan bwyll, gan bwyll
trwy gydol y dydd a'r nos.
| Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
|---|---|---|
| mewn gwth o oedran | yn hen iawn | - |
| disgybledig | dan reolaeth | disciplined |
| oriog | anghyson, newid o hyd | flickle |
| dygn | gydag ymdrech | persevering |
| pendil | rhoden a phwysau ar un pen | pendulum |
| curiad | ergyd, trawiad | beat |
| cyfyd | mae'n codi | - |
| diffygio | blino, methu | fail |
| llafurus | anodd, caled | laborious |
| pydew | ffynnon | well, pit |
| talog | hyderus | confident |