Pan fyddwch chi’n meddwl am Fethlehem adeg geni’r Iesu, pa fath o ddarlun sydd yn eich meddwl chi?
Dinas dawel gyda phawb yn cysgu’n sownd?
Noson dywyll, gydag un seren lachar yn disgleirio yn yr awyr?
Mair a Joseff yn dod i’r ddinas ar gefn asyn ac yn gweld goleuni’r adeiladau’n disgleirio yn y tywyllwch?
Rhywbeth fel hyn efallai …?
Ond mae Bethlehem heddiw yn wahanol iawn i’r darlun yna. Edrychwch ar y lluniau hyn. Beth maen nhw’n cyfleu?
Mae un gân Nadolig yn dangos bod gwahaniaeth mawr rhwng Bethlehem adeg geni’r Iesu a Bethlehem heddiw.*
Ewch i: http://www.brigyn.com/english/lyrics-haleliwia.html
i ddarllen y gerdd. Mae rhai geiriau yn yr eirfa ar waelod y sgrin i’ch helpu chi.
Gwrandewch ar y gân yn cael ei chanu yma.
Yna, ewch i’r adran Tasgau.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
dwrn | llaw wedi ei chau'n dynn | fist |
dur | metel wedi ei wneud o haearn a charbon | steel |
pyrth | lluosog porth; mynedfeydd | gateways |
gwyrth | digwyddiad anhygoel, goruwchnaturiol wedi ei drefnu gan Dduw | miracle |
o gylch | o gwmpas | around |
craith | marc ar y croen ar ôl anaf | scar |
chwalu | torri'n deilchion | (to) shatter |
hoel | ôl | trace |