Noson y Radisys
www.samardaith.cymru
gan: Sam 23 Rhagfyr 2018

Noson y Radisys

23 Rhagfyr

Wel, dw i wedi cyrraedd Oaxaca, Mecsico ac wedi gweld pethau anhygoel!

Miloedd o radisys mawr - miloedd o radisys enfawr, anferth - a’r rheiny wedi eu cerfio’n hardd. Roedd rhai llai hefyd, wrth gwrs! Ond beth oedd yn drawiadol oedd y lliwiau porffor, pinc, coch a gwyn ymhob man.

Well i mi egluro! Ar 23 Rhagfyr bob blwyddyn, yn Oaxaca, mae cystadleuaeth arbennig – cystadleuaeth cerfio radisys.

Mae’r llysiau hyn i gyd yn cael eu tyfu ar ddarn o dir arbennig. Yna:

  • Rhagfyr 19: mae pobl yn dod i’r darnau o dir i dynnu’r radisys maen nhw eisiau
  • Rhagfyr 20: maen nhw’n glanhau’r radisys
  • Rhagfyr 21-22: maen nhw’n cerfio’r radisys (dydd a nos – weithiau!)
  • Rhagfyr 23: maen nhw’n rhoi’r radisys yn y gystadleuaeth – a chystadlu

Mae’r gwaith yn anhygoel! Mae’n bosib gweld cymeriadau o stori’r Geni, cymeriadau o ddiwylliant yr ardal, adar ac anifeiliaid a phethau hardd eraill. Dyma rai enghreifftiau i chi:

Llun: Rabanos2014 016AlejandroLinaresGarcia © Wikimedia Commons o dan drwydded Creative Commons Attribution-Share Alike 4.0 International

Llun: Rabanos2014 099 - AlejandroLinaresGarcia © Wikimedia Commons o dan drwydded Creative Commons Attribution-Share Alike 4.0 International

Llun: Rabanos2014 009 - AlejandroLinaresGarcia © Wikimedia Commons o dan drwydded Creative Commons Attribution-Share Alike 4.0 International

Anhygoel! Os ydych chi eisiau gweld enghreifftiau eraill, ewch i: https://edition.cnn.com/travel/gallery/noche-de-rabanos-oaxaca-mexico/index.html

Cynhelir y digwyddiad hwn ym Mecsico. Mae Mecsico wedi ei lliwio'n binc ar y map.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
radis, radisys planhigyn, planhigion gyda gwreiddiau lliw coch mae'n bosib eu bwyta radish, radishes
trawiadol arbennig iawn striking
diwylliant hanes, llenyddiaeth, celf, chwedlau ac ati culture