Gwrandewch ar y darn yma o newyddion o'r Gemau Olympaidd yn y flwyddyn 404 Cyn Crist. Roedd y gemau bryd hynny'n wahanol iawn i'n Gemau Olympaidd ni heddiw! Yna, ar ôl gwrando, darllenwch y wybodaeth isod.
Roedd y Gemau Olympaidd amser maith yn ôl yn wahanol iawn i'r Gemau Olympaidd modern.
• Mae'r Gemau Olympaidd yn hen iawn, iawn. Mae'r cofnod ysgrifenedig cyntaf yn dyddio o'r flwyddyn 776 Cyn Crist.
• Roedd y Gemau'n digwydd yn Olympia, Groeg, bob tro.

• Dim ond un ras oedd i ddechrau.
• Dim ond dynion oedd yn rhedeg ac roedden nhw'n rhedeg yn noeth.
• Roedd yr enillwyr yn cael coron o ddail.

• Dros y blynyddoedd, daeth cystadlaethau eraill yn rhan o'r Gemau Olympaidd, fel:
- bocsio 
- taflu gwaywffon
- taflu disgen
- rasio cerbydau rhyfel
- neidio
- pentathlon - taflu disgen, taflu gwaywffon, neidio, reslo a rhedeg.
Roedd un ras anodd iawn hefyd - ras ar gyfer dynion oedd yn gwisgo helmed drom ac yn cario tarian.
| Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
|---|---|---|
| cleddyfa | camp lle mae dau berson yn ymladd â chleddyfau | (sword) fencing |
| canolbarth | ardal yn y canol | midlands |
| oes | bywyd | life |
| dan bwysau | dan straen | stressed, under pressure |
| dyfalbarhad | dal ati | perseverance |
| cofnod ysgrifenedig | darn sydd wedi ei ysgrifennu | written record |
| gwaywffon | darn hir, tenau o bren | javelin |
| drom | ffurf fenywaidd ‘trwm’ | heavy |
| tarian | offer arbennig roedd milwyr yn ei gario i’w hamddiffyn eu hunain mewn brwydr | shield |