Ydy pobl Cymru'n gwneud digon o weithgarwch corfforol bob dydd?
Darllenwch ran o arolwg gan Lywodraeth Cymru.
Mae canllawiau'r Adran Iechyd yn argymell ar hyn o bryd bod oedolion yn gwneud o leiaf 30 munud o weithgarwch corfforol sydd yn gymedrol o ddwys o leiaf, ar bump neu fwy o ddiwrnodau'r wythnos.
Gofynnodd yr arolwg i oedolion ar ba ddiwrnodau yn yr wythnos flaenorol yr oeddent wedi gwneud o leiaf 30 munud o ymarfer corff neu weithgarwch corfforol ysgafn, cymedrol neu egnïol. Mae blociau o weithgarwch sy'n parhau am fwy na 10 munud, ar yr un diwrnod, yn cyfrif tuag at y 30 munud llawn.
Gofynnwyd i ymatebwyr gynnwys gweithgarwch corfforol sy'n rhan o'u swydd. Dyma enghreifftiau o'r gwahanol fathau o weithgarwch:
• gweithgarwch ysgafn - gwaith tŷ neu golff
• gweithgarwch cymedrol - garddio trwm neu gerdded yn gyflym
• gweithgarwch egnïol - rhedeg neu aerobeg.
Ffigur 4h: Y ganran a ddywedodd eu bod wedi cwrdd â chanllawiau gweithgaredd
corfforol yn ystod yr wythnos flaenorol, yn ôl oedran a rhyw.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
arolwg | proses o ganfod gwybodaeth / adroddiad ar ôl dod o hyd i’r wybodaeth | survey |
canllawiau | syniadau sy’n awgrymu ffordd o weithredu | guidelines |
argymell | ceisio perswadio | to recommend |
cymedrol o ddwys | gweddol ddwys | moderately intense |
blaenorol | cynt | previous |
egnïol | defnyddio llawer o egni | energetic |
ymatebwyr | y bobl oedd yn ymateb | respondents |