Bydd y Gemau Olympaidd yn dod i ben ar Awst 12. Bydd baner y Gemau Olympaidd yn cael ei thynnu i lawr a bydd y fflam Olympaidd yn cael ei diffodd - munud drist sy'n dangos bod y Gemau yn wir, ar ben.
OND...
...ymhen pythefnos, bydd Gemau eraill yn digwydd yn yr un stadiwm - y Gemau Paralympaidd.
Bydd fflam arbennig yn cael ei chynnau yn Llundain ar Awst 24. Yna, rhwng Awst 25 ac Awst 27, bydd fflamau eraill yn cael eu cynnau yn Belfast, Caeredin ac yng Nghaerdydd. Bydd y fflamau hyn i gyd yn cael eu cludo i Stoke Mandeville yn Lloegr. Yno, ar Awst 28, byddan nhw'n cael eu huno i greu'r fflam Baralympaidd. Bydd hon yn cael ei chludo i'r Stadiwm erbyn Awst 29. Dyma'r fflam fydd yn cael ei defnyddio yn y seremoni agoriadol ar ddechrau'r Gemau Paralympaidd.
Cafodd llawer o gyn-filwyr eu hanafu yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac roedd llawer ohonyn nhw yn Ysbyty Stoke Mandeville, Lloegr. Roedd doctor o'r enw Ludwig Guttmann
yn gofalu amdanyn nhw yno ac roedd e'n credu'n gryf fod chwaraeon yn gallu helpu i wella pobl. Ar ddiwrnod cyntaf y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 1948, felly, trefnodd fod gemau arbennig ar gyfer pobl mewn cadair olwyn yn cael eu cynnal yn Stoke Mandeville.
Dyma ddechrau'r Gemau Paralympaidd.
Cleifion yn cymryd rhan yng Ngemau Stoke Mandeville. Llun gan Star & Garter.
Bydd seremonïau pwysig yn cael eu cynnal yn ystod y Gemau Paralympaidd.
Yn ystod y seremoni agoriadol, bydd baner y Gemau Paralympaidd a baner Prydain yn cael eu codi a bydd yr athletwyr yn gorymdeithio o gwmpas y Stadiwm. Bydd areithiau, bydd y Gemau'n cael eu hagor a bydd un o'r athletwyr ac un o'r beirniaid yn addo, ar ran pawb arall, y byddan nhw'n cadw at y rheolau. Yna, bydd y fflam yn cyrraedd y stadiwm a bydd yn cael ei defnyddio i gynnau'r tân yn y crochan. Bydd y fflam yn llosgi drwy gydol y Gemau.
Bydd seremoni ar 9 Medi, 2012 hefyd - seremoni i gau'r Gemau. Bydd yr athletwyr o bob gwlad yn gorymdeithio o gwmpas y stadiwm gyda'i gilydd, bydd y faner Baralympaidd yn cael ei thynnu i lawr a bydd baner Rio de Janeiro, lle bydd y Gemau Paralympaidd nesaf yn cael eu cynnal, yn cael ei chodi. Bydd y fflam yn cael ei diffodd i ddangos bod y Gemau ar ben.
Bydd chwaraewyr yn cystadlu mewn 20 o chwaraeon, fel athletau, cleddyfa, saethyddiaeth, beicio, nofio ac ati.
Mae nifer o athletwyr Paralympaidd o Gymru'n cystadlu yn cystadlu yn nhîm Prydain.
Pob lwc iddyn nhw!
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
dod i ben | gorffen | to end |
ar ben | wedi gorffen, drosodd | over |
ymhen | o fewn | within |
uno | dod at ei gilydd | to unite |
cludo | cario | to transport, carry |
anafu | brifo, cael dolur | to be injured |
gorymdeithio | cerdded / mynd o gwmpas y stadiwm gyda’i gilydd | to march, go in a procession |
ar ran pawb arall | dros bawb arall | on behalf of everyone else |
crochan | lle maen nhw’n cynnau’r fflam | cauldron |
drwy gydol ... | drwy’r ... i gyd | throughout |
cleddyfa | ymladd â chleddyf | (sword) fencing |
saethyddiaeth | saethu at darged gyda bwa a saeth | archery |