Gemau Paralympaidd

Rhifyn 8 - Chwaraeon
Gemau Paralympaidd

Os edrychwch chi ar wefan y Gemau Paralympaidd, fe welwch chi restr o'r cystadlaethau Paralympaidd. Mae rhai o'r cystadlaethau'n debyg i'r Gemau Olympaidd, ond eu bod wedi eu haddasu ar gyfer pobl anabl.

Mae rhai o'r gemau'n hollol wahanol, fodd bynnag, fel Boccia a Phêl-gôl.

Boccia

Mae'r gêm hon ar gyfer unigolion, parau neu dimau mewn cadair olwyn. Mae'n cael ei chwarae ar gwrt arbennig.

Sut i chwarae:

1. Mae'r chwaraewyr yn cael chwe phêl las neu goch.

2. Mae pêl fach wen - y "jac" - yn cael ei thaflu ar y cwrt.

3. Yna, rhaid i'r cystadleuwyr anelu'r peli coch a glas at y jac. Gallant ddefnyddio dwylo, traed neu, os oes angen, ramp arbennig.

4. Mae'r chwaraewyr sy'n anelu'r bêl agosaf at y jac yn ennill pwynt. Yn ogystal, maent yn cael pwynt am bob pêl arall sy'n nes at y jac na pheli eu gwrthwynebwyr.

5. Y chwaraewr neu'r tîm sydd â'r nifer fwyaf o bwyntiau ar ddiwedd y gêm sy'n ennill.

Pêl-gôl

Mae'r gêm hon ar gyfer pobl ddall neu bobl sydd â nam ar eu llygaid. Gan fod gan rai o'r cystadleuwyr well golwg na'i gilydd, efallai, rhaid iddynt wisgo sbectol dywyll arbennig er mwyn sicrhau nad oes neb yn gallu gweld o gwbl. Maent yn chwarae mewn timau o dri - ar gwrt arbennig. Mae'r holl linellau o gwmpas y cwrt neu ar draws y cwrt wedi eu gwneud drwy ddefnyddio tâp neu raff fel bod y chwaraewyr yn gallu eu teimlo.

Gan nad ydynt yn gallu gweld y bêl, mae'r chwaraewyr yn defnyddio pêl arbennig sy'n cynnwys clychau. Mae wyth twll yn y bêl fel bod y chwaraewyr yn gallu clywed y clychau.

Sut i chwarae:

1. Mae'r chwaraewyr yn trio sgorio goliau drwy rolio'r bêl i mewn i'r gôl.

2. Rhaid i aelodau'r tîm arall geisio rhwystro'r tîm rhag sgorio drwy flocio'r bêl â'u cyrff

3. Rhaid i'r gynulleidfa beidio â gwneud unrhyw sŵn, fel bod y chwaraewyr yn medru clywed y clychau yn y bêl

e3_2.jpg

Llun : Pwyllgor Paralympaidd Awstralia

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
wedi eu haddasu wedi cael eu newid ychydig adapted
â nam ar eu llygaid methu gweld yn iawn visually impaired