Ar ôl y Gemau Olympaidd

Rhifyn 8 - Chwaraeon
Ar ôl y Gemau Olympaidd

Bydd y Gemau Olympaidd yn dod i ben ar Awst 12. Bydd baner y Gemau Olympaidd yn cael ei thynnu i lawr a bydd y fflam Olympaidd yn cael ei diffodd - munud drist sy'n dangos bod y Gemau yn wir, ar ben.

OND...
...ymhen pythefnos, bydd Gemau eraill yn digwydd yn yr un stadiwm - y Gemau Paralympaidd.

Y fflam Baralympaidd

Bydd fflam arbennig yn cael ei chynnau yn Llundain ar Awst 24. Yna, rhwng Awst 25 ac Awst 27, bydd fflamau eraill yn cael eu cynnau yn Belfast, Caeredin ac yng Nghaerdydd. Bydd y fflamau hyn i gyd yn cael eu cludo i Stoke Mandeville yn Lloegr. Yno, ar Awst 28, byddan nhw'n cael eu huno i greu'r fflam Baralympaidd. Bydd hon yn cael ei chludo i'r Stadiwm erbyn Awst 29. Dyma'r fflam fydd yn cael ei defnyddio yn y seremoni agoriadol ar ddechrau'r Gemau Paralympaidd.

Ysbyty Stoke Mandeville

c3_2.jpgCafodd llawer o gyn-filwyr eu hanafu yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac roedd llawer ohonyn nhw yn Ysbyty Stoke Mandeville, Lloegr. Roedd doctor o'r enw Ludwig Guttmannludwid_guttmann.jpg yn gofalu amdanyn nhw yno ac roedd e'n credu'n gryf fod chwaraeon yn gallu helpu i wella pobl. Ar ddiwrnod cyntaf y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 1948, felly, trefnodd fod gemau arbennig ar gyfer pobl mewn cadair olwyn yn cael eu cynnal yn Stoke Mandeville.

Dyma ddechrau'r Gemau Paralympaidd.

 Cleifion yn cymryd rhan yng Ngemau Stoke Mandeville. Llun gan Star & Garter.

Seremonïau

Bydd seremonïau pwysig yn cael eu cynnal yn ystod y Gemau Paralympaidd.

Yn ystod y seremoni agoriadol, bydd baner y Gemau Paralympaidd a baner Prydain yn cael eu codi a bydd yr athletwyr yn gorymdeithio o gwmpas y Stadiwm. Bydd areithiau, bydd y Gemau'n cael eu hagor a bydd un o'r athletwyr ac un o'r beirniaid yn addo, ar ran pawb arall, y byddan nhw'n cadw at y rheolau. Yna, bydd y fflam yn cyrraedd y stadiwm a bydd yn cael ei defnyddio i gynnau'r tân yn y crochan. Bydd y fflam yn llosgi drwy gydol y Gemau.

Bydd seremoni ar 9 Medi, 2012 hefyd - seremoni i gau'r Gemau. Bydd yr athletwyr o bob gwlad yn gorymdeithio o gwmpas y stadiwm gyda'i gilydd, bydd y faner Baralympaidd yn cael ei thynnu i lawr a bydd baner Rio de Janeiro, lle bydd y Gemau Paralympaidd nesaf yn cael eu cynnal, yn cael ei chodi. Bydd y fflam yn cael ei diffodd i ddangos bod y Gemau ar ben.

Y cystadlaethau

Bydd chwaraewyr yn cystadlu mewn 20 o chwaraeon, fel athletau, cleddyfa, saethyddiaeth, beicio, nofio ac ati.

Athletwyr o Gymru

Mae nifer o athletwyr Paralympaidd o Gymru'n cystadlu yn cystadlu yn nhîm Prydain.

Pob lwc iddyn nhw!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
dod i ben gorffen to end
ar ben wedi gorffen, drosodd over
ymhen o fewn within
uno dod at ei gilydd to unite
cludo cario to transport, carry
anafu brifo, cael dolur to be injured
gorymdeithio cerdded / mynd o gwmpas y stadiwm gyda’i gilydd to march, go in a procession
ar ran pawb arall dros bawb arall on behalf of everyone else
crochan lle maen nhw’n cynnau’r fflam cauldron
drwy gydol ... drwy’r ... i gyd throughout
cleddyfa ymladd â chleddyf (sword) fencing
saethyddiaeth saethu at darged gyda bwa a saeth archery