Mae Oscar Pistorius yn gyflym! Mae e'n gyflym iawn, iawn! Mae e'n gallu rhedeg 400 metr mewn 45.07 eiliad!

Mae Oscar Pistorius yn athletwr Paralympaidd arbennig iawn. Cafodd ei eni heb ffibwla, sef yr asgwrn hir, tenau sy'n mynd o'r pen-glin i lawr at y ffêr neu'r pigwrn.

Pan oedd yn 11 mis oed, bu'n rhaid torri ei ddwy goes i ffwrdd hanner ffordd rhwng y pen-glin a'r ffêr neu'r pigwrn. Chwe mis yn ddiweddarach, cafodd ei goesau a'i draed prosthetig cyntaf a dysgodd sut i'w defnyddio'n fuan iawn.

Pan oedd yn ifanc, roedd yn mwynhau chwaraeon yn fawr. Yn yr ysgol, roedd yn chwarae polo dwr, rygbi, criced a thennis ac roedd yn mwynhau cymryd rhan mewn cystadlaethau triathlon, reslo a bocsio.

Yn 2003, cafodd ddamwain tra oedd yn chwarae rygbi a chafodd anaf difrifol i'w ben-glin. Er mwyn ceisio gwella a chryfhau, awgrymodd doctor y dylai ddechrau rhedeg ar drac. Yna, yn 2004, cymerodd ran yn ei ras gyntaf - 100 metr. Enillodd y ras mewn 11.72 eiliad. Beth oedd yn rhyfeddol am hyn oedd ei fod wedi rhedeg yn gynt na'r record Baralympaidd ar y pryd, sef 12.20 eiliad.

Aeth ymlaen, y flwyddyn wedyn, i gystadlu yn y Gemau Paralympaidd yn Athen, Groeg, lle enillodd y ras 200m mewn 21.97 eiliad. Enillodd fedal efydd am y ras 100 metr hefyd.

Pwnc llosg

Erbyn hyn, roedd e eisiau cystadlu yn erbyn pobl heb anabledd. Ym mis Mawrth 2005, daeth yn chweched ym Mhencampwriaethau De Affrica yn y ras 400m ar gyfer pobl heb anabledd. Yna, ym mis Gorffennaf 2007, daeth yn ail yn y ras 400m ar gyfer pobl heb anabledd - mewn 46.9 eiliad.

Fodd bynnag, dechreuodd rhai pobl holi a oedd hi'n deg ei fod yn cael rhedeg yn y rasys hyn. A oedd ei goesau a'i draed prosthetig yn rhoi mantais iddo dros bobl abl? Felly, ym mis Tachwedd 2007, cymerodd ran mewn arbrofion ym Mhrifysgol Chwaraeon Cologne. Dangosodd y rhain ei fod yn medru rhedeg yr un mor gyflym â phobl eraill ond ei fod yn defnyddio llai o egni na nhw. Mewn geiriau eraill, daeth y gwyddonwyr i'r casgliad fod y traed prosthetig yn rhoi mantais iddo a chafodd ei ddiarddel o'r cystadlaethau hyn.

Gwrthododd Oscar dderbyn y penderfyniad ac aeth i America i gymryd rhan mewn mwy o brofion gwyddonol. Yno, daeth y gwyddonwyr i gasgliad gwahanol iawn. Dangoson nhw fod y profion cyntaf wedi canolbwyntio ar berfformiad Oscar tra oedd yn rhedeg mewn llinell syth. Doedden nhw ddim wedi ystyried ffactorau fel dechrau ras, cyflymu yn ystod ras ac ati. Penderfynwyd nad oedd ganddo unrhyw fantais o gwbl dros bobl heb anabledd a chafodd yr hawl i gystadlu yn eu herbyn unwaith eto.

Canolbwyntiodd ar y Gemau Paralympaidd yn unig yn 2008 ac enillodd fedalau aur yn y rasys 100 metr, 200 metr a 400 metr, gan osod record newydd o 47.49 eiliad ar gyfer y 400 metr. Fodd bynnag, mae'n gobeithio cystadlu yn y Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd yn Llundain yn 2012. Cadwch lygad ar y newyddion i weld a fydd e'n llwyddo i wneud hyn!

Prif lun: Kastom

Llun proffil: Selligpau 

Oscar Pistorius
Oscar Pistorius

Enw: Oscar Pistorius

Geni: 22 Tachwedd 1986

Man geni: Johannesburg, De Affrica

Cartref: Pretoria, De Affrica

Rhedeg dros: De Affrica

Campau: Rhedeg yn y 100m, 200m, 400m

Amser: 100m: 10.91 eiliad (2007), 200m: 21.41 eiliad (2010), 400m: 45.07 eiliad (2011)

Llwyddiant arbennig: Gemau Paralympaidd Beijing, 2008, 3 medal aur - yr unig athletwr Paralympaidd i gyflawni hyn. Pencampwriaeth Paralympaidd y Byd, 2011, 3 medal aur - yr unig athletwr Paralympaidd i gyflawni hyn.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
cyflawni llwyddo i wneud rhywbeth to achieve
ffêr / pigwrn cymal sy’n cysylltu’r goes a’r droed ankle
diarddel ei rwystro rhag cymryd rhan to disqualify