Trên cyflymaf y byd
Maglev Shanghai
Arwydd yn y trên yn dangos ei gyflymdra
Maglev Shanghai yw'r trên cyflymaf yn y byd. Wrth deithio rhwng cyrion Shanghai a maes awyr Pudong, mae'n mynd 430km yr awr ar ei gyflymaf. Dechreuodd y trên gario teithwyr ym mis Ebrill 2004.
Ystyr Maglev
Enw 'Maglev' yn llawn yw 'Magnetic levitation'. Ystyr hyn yw bod y trenau'n hofran dros lwybr (gweler y llun) gan ddefnyddio egwyddorion magnetau yn lle'r hen reilffyrdd gyda'r trac ac olwynion dur.
Mae tri pheth yn gwneud i drenau maglev weithio:
1) Pŵer trydan allanol
2) Coiliau metel ar hyd llwybr neu drac
3) Magnetau mawr sy'n sownd wrth waelod y trên
Y gwahaniaeth mawr rhwng trên maglev a thrên arferol yw nad oes injan gan drenau maglev. O leiaf, nid injan fel sydd mewn trenau sy'n tynnu cerbydau ar hyd rheilffordd ddur. Mae'r trên yn hofran rhwng 1 a 10 cm uwchben y llwybr. Pan fydd y trên yn hofran, mae pŵer trydan yn cael ei roi yn y coiliau yn waliau'r llwybr. Mae hyn yn creu maes magnetig, a hwn sy'n tynnu ac yn gwthio'r trên ar hyd y llwybr.
Mae trenau maglev yn hofran ar glustog o aer, felly does dim ffrithiant. Oherwydd hyn, a bod y trenau wedi cael eu dylunio i fod yn aerodynamig, maen nhw'n gallu teithio'n gynt nag unrhyw beth arall ar y tir - dros 500 km yr awr.
Yn y pen draw, mae'r datblygwyr yn dweud y bydd trenau maglev yn gallu cysylltu dinasoedd sydd hyd at 1,000 milltir oddi wrth ei gilydd. Ar 500km yr awr, gallech chi deithio o Baris i Rufain mewn ychydig dros ddwy awr. Ar hyn o bryd, mae'r daith yn cymryd tua 10 awr. Yr Almaen a Siapan yw'r gwledydd sy'n datblygu trenau maglev ar hyn o bryd.
Dyma sylwadau un teithiwr ar drên maglev:
"Wrth deithio yn y trên, rydych chi'n bendant yn sylweddoli eich bod chi'n mynd fel y gwynt. Mae rhyw deimlad rhyfedd yn eich clustiau, rhywbeth tebyg i'r teimlad sydd wrth godi mewn awyren neu fynd mewn lifft."