Conn Iggulden (addasiad Elin Meek)

Teg, y prif gymeriad, sy'n adrodd y stori yn y nofel hon. Ar ddechrau'r nofel mae'n cofio amdano'i hun yn cael ei fwlio  pan oedd yn blentyn a'i frawd mawr, Dewi, yn dial ar y bwli.

Meddyliais am fachgen roedd y ddau ohonon ni wedi ei adnabod. Hen fachgen cas, Llywelyn Bowen oedd ei enw, ond bod pawb, gan gynnwys ei fam, yn ei alw'n Llew. Dw i'n gallu gweld ei hwyneb hi yn yr angladd yn wyn fel sialc. R'on i wedi bod yn sefyll yn y glaw ar lan y bedd, yn gwylio'r arch yn mynd i lawr i'r twll. Dw i'n cofio meddwl tybed a oedd hi'n gwybod bod ei mab wedi bod yn ein bwlian ni.

Hoffi bod yn greulon i rywun roedd Llew, yn fwy na rhoi poen. Ei hoff dric oedd gwasgu person ar y ddaear a chodi ei goesau'n dynn dros ei ben fel ei fod yn methu cael ei anadl. Pan wnaeth e hyn i fi, dw i'n cofio ei wyneb yn mynd yn goch yr un pryd â fy wyneb i, a'r gwaed yn curo yn fy nghlustiau. Er mai dim ond plentyn o'n i, ro'n i'n gwybod bod rhywbeth yn rhyfedd am y ffordd roedd e'n mynd mor boeth a llawn cyffro.

Dw i'n credu mai fy mrawd laddodd e. Dw i erioed wedi mentro gofyn ond roedden ni wedi edrych ar ein gilydd wrth i'r arch fynd i lawr i'r twll rhyngon ni. Cyn i mi allu edrych i ffwrdd, roedd e wedi rhoi winc i mi.

Roedd Llew Bowen wedi boddi mewn llyn yn ddigon pell o Aber. Roedd e fel byd arall. Roedd fy mrawd wedi herio fe i groesi'r llyn. Roedd hi'n ddiwrnod rhewllyd a'r dŵr yn ddigon oer i droi'r croen yn las. Roedd fy mrawd wedi llwyddo i gyrraedd yr ochr draw, lle'r oedd criw ohonon ni'n crynu wrth i ni aros. Daeth allan o'r llyn yn edrych fel dyn rwber. Wedyn cerddodd yn araf a thrwm cyn pwyso ar graig a chwydu hylif melyn dros ei draed noeth.

Dw i'n credu mai fi oedd y cyntaf i wybod. Ond edrychais gyda'r lleill, gan ddisgwyl gweld pen coch Llew'n codi i'r lan. Deifwyr ddaeth â'i gorff e'nôl yn y diwedd ar ôl chwilio am dair awr. Roedd yr heddlu wedi siarad â phawb, a 'mrawd wedi bod yn llefain. Roedd y deifwyr wedi ein rhegi ni. Nhw oedd y rhai oedd yn gorfod chwilio am blant wedi boddi ar ddiwrnodau oer. Roedd eu geiriau'n ein chwipio wrth i ni grynu mewn blancedi coch garw.

Ro'n i wedi bod yn gwrando ar fy mrawd yn siarad â nhw ond ddywedodd e ddim o werth. Doedd e ddim wedi gweld dim yn digwydd, meddai. Dim ond ar ôl cyrraedd yr ochr draw roedd e wedi meddwl bod rhywbeth yn bod. Byddwn i wedi'i gredu fe ond roedd e wedi gweld Lew yn rhoi dolur i fi'r diwrnod cynt.

Roedd Llew wedi penderfynu rhoi cosb arbennig i mi am dorri rhyw reol oedd ganddo. Ro'n i wedi bod yn llefain pan ddaeth fy mrawd heibio a dyma Llew yn gadael i mi fynd. Doedd dim un ohonon ni'n siwr beth fyddai e'n ei wneud ond roedd rhywbeth caled am fy mrawd. Roedd e hyd yn oed yn codi ofn ar fechgyn fel Llew. Wrth iddo weld llygaid tywyll fy mrawd Dewi a darnau gwyn ei wyneb lle'r oedd y croen yn dynn dros yr esgyrn, gadawodd i fi fynd ar unwaith.

Roedd y ddau wedi edrych ar ei gilydd a mrawd wedi gwenu.Y diwrnod wedyn roedd Llew Bowen yn gorff oer a glas ar lan llyn Nant-y-moch. Fentrais i ddim gofyn y cwestiwn.Roedd e wedi pwyso'n drwm ar fy stumog.Ro'n i'n teimlo'n euog am 'mod i'n rhydd. Ro'n i'n gallu cerdded heibio i dŷ Llew heb fod arna i ofn y byddai'n fy ngweld ac yn dechrau fy nilyn. Hen fachgen cas oedd e, ond doedd e ddim yn yr un cae â 'mrawd. Dim ond ffŵl fyddai wedi ceisio nofio ar ddiwrnod oer ym mis Tachwedd. Dim ond bachgen fyddai arno ofn pysgodyn mwy na fe ei hunan hyd yn oed.

Allan o: Dŵr Dwfn gan Conn Iggulden. addas. Elin Meek. Stori sydyn. Gwasg Gomer.