Rheol rhif un
Rhaid gwisgo dy dei
yn fyr, ok?
Rheol rhif dau
Rhaid cadw gwm cnoi
yn dy fag ysgol cŵl,
dim sachell ledr
a DIM CAGŵL!
Rheol rhif tri
Sgert mini bob amser
a’i gwisgo â hyder.
Rheol rhif pedwar
Sodlau!
Rheol rhif pump
Gwisg fathodynnau
ond dim ond un neu ddau
Rheol rhif chwech
Paid â gwisgo cot –
hyd yn oed
os yw hi’n
bwrw glaw
lot.
Rheol rhif saith
Gwna dy waith!
Rheol rhif wyth
Ond paid â gwneud llwyth!
Rheol rhif naw
Cofia – beth bynnag a ddaw
Mae’n hysgol NI yn hollol WAW!
Rheol rhif deg
A phan rydyn ni’n colli
Mewn rygbi, pêl-droed, pêl-rwyd a hoci,
Neu pan ddaw’r côr yn olaf yn’steddfod sir -
Mae rheol rhif naw yn aros yn hollol wir.
Mererid Hopwood.Y Deg Gorchymyn, Mererid Hopwood. Caneuon y Coridorau. (Gwasg Carreg Gwalch)
1. Arian! Arian! Arian!
Rydyn ni, blant ysgol, yn gwneud cwmnїau mawrion yn fwyfwy cyfoethog! Mae Americanwyr yn gwario dros filiwn o ddoleri’r flwyddyn ar wisg ysgol! Ewch i unrhyw archfarchnad yn eich ardal ac fe welwch chi wisg ysgol ar werth a’r cwmnїau’n cystadlu â’i gilydd – £5.00 am drowsus fan yma, £10.99 fan draw. Ac yna’r siopau arbennig sy’n gwerthu dillad gyda logo eich ysgol chi. Dim posib cael bargen yma!
2. Gwneud drwg i’n datblygiad i fod yn oedolion.
Ar hyd ein cyfnod yn yr ysgol rydyn ni’n cael ein paratoi at fod yn oedolion. Ond mae gorfod gwisgo gwisg ysgol yn gwneud drwg i hynny. Mae’n orfodol, dydyn ni ddim yn cael dewis. Mae dewis yn rhan bwysig o baratoi at fod yn oedolyn.
3. Effeithio ar ein delwedd
Mae gwisg ysgol yn anelu at wneud i bawb edrych yr un fath. Ond yn lle gwella ein hunan ddelwedd mae’n gwneud yn hollol i’r gwrthwyneb. Mae maint a siâp corff pob un ohonom yn wahanol ac mae’n amhosibl i wisg ysgol siwtio pawb. Yn ôl yr ymchwil “Public School Uniforms: Effect on Perceptions of Gang Presence, School Climate, and Student Self-Perceptions,” mae gan ddisgyblion sydd ddim wedi gorfod gwisgo gwisg ysgol fwy o hyder na’r rhai sydd wedi gorfod gwisgo gwisg ysgol.
4. Achosi bwlio
Dangosodd arolwg yn 2009 bod yr achosion o fwlio wedi codi 12%, ar ôl i wisg ysgol gael ei gorfodi yn yr UD. Yn ôl ymchwil arall yn 2010 roedd 14 yn fwy o ymosodiadau bob blwyddyn wedi i wisg ysgol gael ei gorfodi. Bwli ydy bwli, felly, a dydy gwisg ysgol ddim yn ei rwystro.
5. Diflas!
Mae gwneud pawb yr un fath yn BORING!” Ac mae’r dillad eu hunain yn BORING!
Meddyliwch am eu lliwiau – glas, du, brown, gwyrdd ac unrhyw liw di-fflach. I wneud pethau’n waeth rhaid gwisgo’r un dillad ddydd ar ôl dydd! Mae ysgol yn ddigon diflas fel y mae heb orfod gwisgo dillad diflas hefyd!
6. Anghyfforddus!
Mae sgertiau cwta’n rhy gwta weithiau a phan fo hi’n chwythu gellwch weld gormod! Maen nhw hefyd yn gallu effeithio ar eich gallu i ganolbwyntio mewn gwers. Rydych yn poeni mwy am geisio tynnu’r sgert i lawr nag ar y wers!
Mae defnydd gwisg ysgol yn gallu bod yn galed ac yn anghyfforddus ac mae’r steil yn gallu gwneud i chi edrych yn ddifrifol!
7. Rhy ddrud
Mae’r rhai sydd o blaid gwisg ysgol yn dweud eu bod yn rhatach na gwisgoedd eraill am fod gwisg ysgol yn cael ei gwisgo bob dydd. Ond y gwir amdani yw bod rhieni yn gwario tua £200 ar wisg ysgol bob blwyddyn. Gan fod plant yn tyfu’n gyflym rhaid prynu gwisg yn aml. Ar ben hynny, mewn rhai ysgolion mae gwisg blynyddoedd 10 ac 11 yn wahanol i wisg blynyddoedd 7 i 9.
8. Unffurfiaeth – yn lle Personoliaeth
Mae plant yn cael eu dysgu i fod yn hwy eu hunain ond mae gorfodi gwisg ysgol yn mynd yn groes i hynny. Rydyn ni’n troi yn robotiaid!
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
Unffurfiaeth | pawb yr un fath | conformity |