Llond silff o lyfrau pobi

Rhifyn 41 - Y Chwyldro Pobi
Llond silff o lyfrau pobi

Dyma gerdd am ein hoffter o brynu llyfrau pobi.

Llond Silff o Lyfrau Pobi

Llond silff o lyfrau pobi,
Rhai lliwgar, trwchus iawn,
Mae pump gan Mary Berry
Yn llawn o’i dysg a’i dawn.
 
Mae llyfrau pobi bara
Gan Paul yn haeddu’u lle,
Ac wrth imi fodio’r rheini,
Rwyf yn fy seithfed ne’.
 
Does wybod pryd defnyddiais
Y rhain; does gen i ’m co’;
Mae’r tuniau a’r cymysgwr
O’r golwg nawr ers tro.
 
Rwy’n gwylio’r holl raglenni,
Yn gweld y dawnus rai’n
Coginio ac yn pobi;
Mae’u bwrlwm yn ddi-drai.
 
Mi brynaf deisen arall
Er nad ’wy’n gwybod pam,
Gan gwyno nad yw cystal
Â’r rhai a wnâi fy mam.
 
Nid oes aroglau pobi
Yn treiddio’r nos na’r dydd;
Rwy’n hapus yn oddefol
Heb wneud dim byd o fudd.

Effaith ddiwylliannol y Bake Off, yn ôl gwefan Wikipedia:

Mae’r sioe wedi dod yn rhan bwysig o ddiwylliant Prydain ac wedi ysgogi diddordeb mewn pobi gartref. Mae archfarchnadoedd a siopau eraill yn y DU yn dweud bod llawer mwy o gynhwysion ac offer pobi’n cael eu gwerthu. Mae mwy o lyfrau pobi yn cael eu gwerthu, hefyd mae mwy o glybiau pobi a mwy o boptai annibynnol wedi cael eu sefydlu. Yn ôl un dadansoddwr, mae dros 60% o oedolion y DU wedi pobi gartref o leiaf unwaith yn 2013, o’i gymharu â 33% yn unig yn 2011.