Oes gen ti drôns?!

Rhifyn 44 - Gwyddoniaeth Gudd
Oes gen ti drôns?!

Oes gen ti drôns?!

Na, nid trôns, na phants ond drone. Mae drôns yn boblogaidd iawn ar y funud ac maent yn cael eu defnyddio i wneud pob math o bethau. Maen nhw’n cael eu defnyddio am hwyl ac yn cael eu defnyddio ar gyfer gwaith proffesiynol.

Amazon yw’r cwmni adwerthu oddi ar y we mwyaf yn y byd ac maent ar y funud yn datblygu gwasanaeth dosbarthu gan ddefnyddio drôns. Dyma rai o’r pethau y mae gwefan digitalspy.com yn meddwl y dylech wybod am wasanaeth drôn Amazon Prime Air.

  1. Croesiad rhwng hofrennydd ac awyren!

Fel hofrennydd, mae’r drôns yn symud yn fertigol wrth godi a glanio. Fel awyren, maent yn symud yn llorweddol wrth deithio. Gall y drôns gyrraedd uchder o 100 medr a chyflymder o 100kya. Ond bydd yn rhaid iddynt ddychwelyd i’r ganolfan ar ôl pob taith er mwyn ailwefru. Ni fydd y drôns yn cael eu defnyddio ar gyfer pob dosbarthiad, dim ond os yw’n argyfwng – mae’n debygol y bydd yn wasanaeth costus!!

 

  1. Drôns Amrywiol!

Mae’r cwmni wedi arddangos sut y bydd ambell un o’r teclynnau dosbarthu yn edrych, ond byddwn yn gweld amrywiaeth yn hedfan yn yr awyr cyn bo hir.

Ar y funud maent yn gweithio ar fwy na dwsin o gynlluniau gwahanol yn UDA, Prydain, Awstria ac Israel. Mae pob un yn amrywio o ran eu gallu i gario pecynnau o bob maint ac i ddelio â pha bynnag hinsawdd y maent ynddo. Ond gydag uchafswm pwysau o bump pwys, peidiwch a disgwyl y bydd y drôn yn dosbarthu set godi pwysau neu deledu i’ch tŷ chi!

 

  1. Byddwch angen ‘heli-pad’ yn eich gardd!

Wel, ni fydd angen i chi gael ardal enfawr wedi ei tharmacio – nid yw hynny'yn ymarferol – ond mae matiau glanio arbennig gyda logo’r cwmni ar ei ganol ar gael. Mae’r mat yn helpu i dywys y drôn i fan diogel ac esmwyth i lanio.

Mae’r mat glanio yn fychan ac ysgafn, felly’n hawdd i’w symud a’i gadw. Ond byddwch yn wyliadwrus o’ch cymydog doniol yn ceisio ei osod ar do eich car, neu ei hoelio ar eich sied!

 

  1. Osgoi Colomennod!

Ni fydd y drôns yn hedfan yn llawer uwch ’na brîg bwa Stadiwm Wembley ac felly fydd dim perygl iddo amharu ar awyrennau a hofrenyddion go iawn. Ond maen nhw’n debygol o ddod ar draws ambell aderyn! Yn ffodus, diolch i’w technoleg “synhwyro ac osgoi” sy’n defnyddio camerâu a synhwyryddion, bydd y drôn yn gallu ochrgamu o gwmpas ein ffrindiau pluog!

 

  1. Byw’n agos!

Er ei fod yn swnio’n hynod o gyffrous, nid yw’r gwasanaeth yn fêl i gyd. Fel eich ffôn a’ch tabled, mae ’na wendid sy’n amharu ar y perfformiad – bywyd y batri! Dim ond pymtheng milltir yr oedd y drôn a gafodd ei arddangos yn gallu teithio. Saith milltir a hanner yno, a saith a hanner yn ôl.  Felly ar hyn o bryd, os nad ydych chi’n byw o fewn ychydig filltiroedd i ganolfan ddosbarthu’r cwmni peidiwch â disgwyl i’ch pryniadau lanio’n daclus yn eich gardd gefn yn fuan!