Sgrin-gyffwrdd hyblyg!

Rhifyn 44 - Gwyddoniaeth Gudd
Sgrin-gyffwrdd hyblyg!

Sgrin-gyffwrdd hyblyg!

Mae sgriniau cyffwrdd yn rhan o fywydau pawb erbyn hyn. Mae hyd yn oed plant llai ’na dwy oed yn gwybod sut i weithio sgrin gyffwrdd. Mae ambell un ohonom ni yn ceisio llithro’n bysedd dros glawr llyfr er mwyn agor y llyfr, cymaint yr ydym wedi arfer â’r sgriniau hudolus. Felly pwy all ddychmygu ei bod yn bosib i’r dechnoleg anhygoel hon ddatblygu i fod yn fwy anghredadwy? Wel, mae’n debyg ei fod wedi digwydd. Mae gwyddonwyr wedi llwyddo i ddatblygu sgriniau hyblyg fydd, yn y pen draw, yn gallu cael eu plygu, rhowlio a’u hymestyn. Mae’n debyg bod y posibiliadau yn ddi-ddiwedd! Dyma stori fer yn archwilio hynny.

Olwen

Mae hi’n hanner dydd ar ei ben. Rwy’n eistedd wrth y ffenestr er mwyn cael edrych allan ar y stryd brysur. Mae’r bobl… a’r lleill… yn plethu trwy’i gilydd. Mae cymaint ohonyn nhw, does ’na fawr o olau dydd i’w weld rhyngddynt. Rwy’n dewis un o’r merched sy’n gwisgo siwt, yn amlwg yn gweithio mewn swyddfa o ryw fath. Rwy’n syllu arni. Rwy’n ei hastudio. Ydi hi’n un ohonyn nhw?

Mae ’na boen yn saethu i fyny fy mraich. Mae’r boen yn fy nhynnu o fy myfyrdod. Rwy’n rhoi fy llaw ar y rhwymau ac rwy’n teimlo gwres y boen yn codi o’r llosgiadau. Rwy’n edrych ar y cloc yn bryderus. Mae hi’n wyth munud wedi deuddeg.

Daw dyn ifanc i’r caffi a’i wynt yn ei ddwrn. Rwy’n edrych arno’n ddisgwylgar. Mae’n edrych arna i ac yn fy adnabod.

“Olwen?”

“Ie.”

“Wedodd eich tad eich bod chi’n ferch bert!”

Rwy’n syllu arno, heb ymateb. Mae yntau’n llyncu ei boer cyn eistedd i lawr. Rwy’n edrych trwy’r ffenestr eto ac yn gofyn iddo:

“Wyt ti’n meddwl bod rhai o’r bobl hyn yn un ohonyn nhw?”

Nid yw’r dyn yn edrych trwy’r ffenestr. Mae wedi dechrau tynnu samplau a phapurau o’i fag, ond mae’n fy ateb.

“Mae’n debygol iawn. Mae’r dechnoleg newydd sydd wedi’n galluogi ni i greu’r croen arbennig ’ma yn golygu ei bod hi’n anoddach nag erioed i fedru gweld gwahaniaeth rhwng y nhw a ni.”

Rwy’n edrych arno yn tynnu’r rholiau bach o sgriniau cyffwrdd hyblyg o’i fag. Tydi o ddim hyd yn oed wedi holi sut mae’r fraich yn teimlo, sut mae’r boen, sut ydw i. Rwy’n gwylltio’n dawel bach. Pam mai hwn sydd yma? Ble mae Dad? Ei syniad ef oedd rhoi’r “croen arbennig” yma ar fy mraich, yn hytrach na chroen arferol. “Fydd dim angen i ti gario dim ’da ti. Fydd dim angen i ti hyd yn oed gael handbag. Bydd popeth ar gael drwy gyffwrdd dy fraich. Meddylia am y rhyddid.” Wnes i gytuno, dim ond oherwydd am y tro cyntaf roedd gan Dad ddiddordeb yn fy mywyd.

Ac am y rhyddid? Pa ryddid?