Chwysu peints!

Rhifyn 52 - Rhyfedd!
Chwysu peints!

Mae beth rydych chi’n ei wisgo yn dweud llawer amdanoch chi, mae’n debyg. Mae rhai pobl yn ceisio gwisgo’n smart bob amser - dyma’r bobl sy’n ceisio creu argraff, efallai. Mae rhai pobl yn gwisgo’r un dillad o ddydd i ddydd, sy’n awgrymu eu bod yn ddifflach, o bosib.

Yn ôl seicolegwyr, mae’r lliwiau rydych chi’n dewis eu gwisgo fel arfer yn dangos eich personoliaeth, e.e. mae coch yn awgrymu pobl hyderus, porffor yw lliw pobl artistig a gwyrdd yw’r lliw ar gyfer pobl fodlon, lonydd. Mae rhai pobl yn gwisgo dillad du fel arfer - dyma’r bobl “ddifrifol” yn ôl yr arbenigwyr.

Mae dewis dillad sy’n addas ar gyfer achlysur arbennig yn bwysig, wrth gwrs. Fyddech chi ddim eisiau mynd i barti Calan Gaeaf yn gwisgo gwisg nofio, er enghraifft, nac ychwaith i farbeciw ganol haf yn gwisgo cot gaeaf. Yn yr un modd, rhaid gwisgo dillad chwaraeon os ydych chi’n mynd i gadw’n heini yn y gampfa.

Yn y dyfodol, mae’n bosib y bydd pobl yn gwisgo dillad am reswm arall hefyd oherwydd mae’n bosib y bydd dillad y dyfodol yn gallu cynhyrchu ynni. Mae ymchwilwyr ym mhrifysgol Binghamton, yn nhalaith Efrog Newydd, wedi bod yn gweithio ar fatri sy’n cael ei bweru gan y bacteria sydd mewn chwys. Mae’r batri ar ffurf defnydd ac mae’n bosib ei ddefnyddio mewn dillad - fel dillad ymarfer corff, sanau, trôns – unrhyw ddilledyn sy’n derbyn chwys y corff mae’n siŵr. Felly, y tro nesaf y byddwch chi’n gweld sanau chwyslyd ar lawr y ganolfan hamdden - neu hyd yn oed yn eich cartref - peidiwch â throi’ch trwyn i fyny a chwyno! Gallen nhw fod yn ffynhonnell ynni bwysig!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
creu argraff gwneud i rywun feddwl yn dda amdanoch chi (to) create an impression
difflach heb ei ysbrydoli uninspired
yn yr un modd felly hefyd in the same way