Beth yw calon?

Rhifyn 53 - Y Galon
Beth yw calon?

Beth yw calon?

Mae un peth yn gyffredin gyda phob person byw. Mae gyda ni i gyd GALON! Heb galon, fyddai neb yn gallu byw. Ond beth yw calon mewn gwirionedd?

Wel,

  • Pwmp enfawr maint dwrn wedi ei chau yw’r galon.
  • Cyhyr yw hi mewn gwirionedd.
  • Gwaith y galon yw pwmpio gwaed o gwmpas y corff.
  • Mae’n symud gwaed di-ocsigen drwy’r gwythiennau ymlaen i’r ysgyfaint i dderbyn ocsigen cyn ei bwmpio wedyn i’r arterïau.
  • Gwaith yr arterïau wedyn yw symud ocsigen a maeth i feinwe’r corff trwy gario gwaed drwy’r corff.
  • Mae’r galon wedi ei lleoli yn y ceudod wrth ymyl yr ysgyfaint a thu ôl asgwrn y frest.

Mae calon pawb yn curo. Ar gyfartaledd:

  • Mae calon iach yn curo rhwng 60 a 100 gwaith y funud.
  • Gall calon wthio rhwng 5 a 5.5 litr o waed y funud o gwmpas y gorff adeg gorffwys.
  • Mae hyn gymaint â 9,000 litr o waed y dydd.
  • Mae 60,000 milltir o wythiennau ac arterïau o fewn y corff.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
cyhyr casgliad o ffeibr o fewn y corff sy'n gallu mynd yn fwy neu'n llai muscle
gwythiennau tiwbiau bach sy'n symud gwaed o gwmpas y corff veins
arterïau tiwbiau gyda waliau o gyhyr sy'n symud gwaed o gwmpas y corff arteries
maeth y deunydd sydd angen ar unrhyw beth byw i dyfu a chadw'n fyw nutrition
meinwe y deunydd y mae corff unrhyw beth byw wedi ei wneud ohono tissue
ceudod gofod neu le gwag cavity
gorffwys ymlacio, aros yn llonydd rest