I Hamelin erstalwm
Os yw'r hen stori'n ffaith,
Fe ddaeth rhyw bibydd rhyfedd
Yn gwisgo mantell fraith.
A'r pibydd creulon hwnnw
A aeth â'r plant i gyd
A'u cloi, yn ôl yr hanes,
O fewn y mynydd mud.
A Hamelin oedd ddistaw
A'r holl gartrefi'n brudd,
A mawr fu'r galar yno
Tros lawer nos a dydd.
Distawodd chwerthin llawen
Y plant wrth chwarae 'nghyd,
Pob tegan bach yn segur,
A sŵn pob troed yn fud.
Trist iawn fu hanes colli
Y plant diniwed, gwan -
Yn Hamelin erstalwm,
Heddiw yn Aber-fan.
T Llew JonesCymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
erstalwm | amser maith yn ôl | a long time ago |
pibydd | rhywun sy'n chwarae pîb sef math o ffliwt | piper |
mantell | clogyn | cloak |
brith / braith | lliwgar | colourful |
mud | heb fod yn gallu siarad | mute |
prudd | trist iawn | sombre |
galar | y teimlad sy'n dod ar ôl i rywun annwyl farw | grief / mourning |
segur | heb fod yn gwneud dim | idle |
diniwed | heb fod yn gwneud niwed i neb; da | harmless |