Gwlad yn Ne Americayw Chile. Mae hi'n wlad gyfoethog o ran mwynau, yn enwedig copr. Daeth y Sbaenwyr i goncro'r wlad yn yr 16 G a chyn hynny'r Inca oedd yn rheoli'r wlad.
Mae'n wlad amrywiol iawn o ran hinsawdd, gydag ardaloedd o anialwch poeth ac ardaloedd eraill sy'n fynyddig ac oer.
Mae ganddi boblogaeth o tua 17,000,000 a'i phrif iaith yw Sbaeneg.
Sebastián Piñeraoedd yr arlywydd pan ddigwyddodd damwain gloddio yn y wlad. Roedd e'n bresennol yn ystod cyfnod achub y mwynwyr ac yn sefyll yng Ngwersyll Gobaith gyda'r teuluoedd yn disgwyl i gyfarch pob un o'r 33 wrth iddynt ddod yn rhydd. Gwersyll Gobaith oedd yr enw a roddwyd ar y lle roedd y teuluoedd yn cysgu wrth aros am eu perthnasau. Doedd dim byd i'w wneud yn y lle hwn ond aros a gobeithio.
Gwasgwch ar y swigod i ddarganfod mwy am hanes y '33'.