Dim ond un llais sydd yn y cwm
A'r llais hwnnw
Yw llais y glaw
Yn curo'n drwm.
Dim ond un llaw sydd yn y cwm
A'r llaw honno
Yw llaw'r mynydd
Yn gwasgu'n drwm.
Dim ond un lliw sydd yn cwm
A'r lliw hwnnw
Yw llwyd
Lliw tristwch, lliw llwm.
Dim ond un cwestiwn sydd yn y cwm
A'r cwestiwn hwnnw
Yw pam?
Ac mae'n gwestiwn rhy drwm.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
curo | taro | hit |
drwm | offeryn cerdd | drum |
cwm | dyffryn | valley |
rhuo | gwneud sŵn mawr, fel llew | roar |
trwm | gwrthwyneb i 'ysgafn' | heavy |
creulon | gwrthwyneb i 'caredig' | cruel |
llifo | dŵr neu hylif yn symud | flow |
crwm | wedi plygu dros rywbeth | slouched |
ar ddod | ar fin dod, bron â dod | about to come |
plwm | metal trwm | lead |