Ffeil-o-ffaith: Aur

Rhifyn 10 - Dan y ddaear
Ffeil-o-ffaith: Aur

Roedd y Rhufeiniaid yn hoffi defnyddio aur i wneud tlysau a llestri hardd. Y gair Lladin am 'aur' yw 'aurum' a'r un gair yw'r gair a ddefnyddiwn ni heddiw yn Gymraeg, c2_1 (2).jpgsef 'aur'. AU yw'r llythrennau sy'n dynodi aur ar y tabl cyfnodol.

  • Gallwch roi'r holl aur sydd wedi cael ei ddarganfod yn y byd mewn un bocs sgwâr fyddai'n ffitio o dan y Tŵr Eiffel ym Mharis.
  • Mae aur yn fetel meddal iawn. Mae'n hawdd ei blygu â llaw.
  • Mae rhai darnau sy'n cael eu defnyddio fel ceiniogau wedi eu gwneud allan o aur pur.
  • Wrth orchuddio metel arall ag aur, dim ond 0.05 mm sy'n cael ei ddefnyddio.
  • Cafodd aur ei ddefnyddio ar gyfer medalau aur y Gemau Olympaidd am y tro ola yn 1912.  Erbyn hyn mae medalau aur ac arian yn cael eu gwneud o 92.5% arian.  Rhaid i fedalau aur cael eu gorchuddio gydag o leiaf 6 grams o aur.
  • Mae aur i'w gael yn nŵr y môr, ond byddai'n costio mwy na gwerth yr aur i'w dynnu allan.

 

 

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
tlysau pethau hardd jewellry
llestri rhywbeth i ddal bwyd dishes, vessels
Lladin iaith oedd y Rhufeiniaid yn ei siarad Latin
darganfod dod o hyd i rywbeth, ffeindio find
meddal rhywbeth sydd ddim yn galed soft
plygu newid siâp rhywbeth bend
gorchuddio rhoi rhywbeth ar ben rhywbeth arall cover / coat