Mae rhai pobl yn meddwl mai mewn gwledydd pell y mae dod o hyd i fetelau gwerthfawr fel aur yn y ddaear. Ond oeddech chi'n gwybod, dim ond i chi edrych yn
fanwl, y gallwch chi ddod o hyd i aur yng Nghymru?
Pan oedd y Rhufeiniaid yng Nghymru ganrifoedd yn ôl, daethon nhw o hyd i aur, a defnyddio'r metel gwerthfawr i wneud pethau fel tlysau, llestri a darnau i brynu a gwario. Enw'r lle a ddaethon nhw o hyd i'r aur yw Dolau Cothi. Mae nifer o ddarnau gwerthfawr wedi cael eu darganfod yn yr ardal, ac mae'n siŵr fod yna rai sydd heb gael eu darganfod yn aros yno i rywun ddod o hyd iddyn nhw. Roedden nhw'n defnyddio ffyrdd soffistigedig i ddod o hyd i'r aur. Adeiladodd y Rhufeiniaid nifer o danciau dŵr mawr i'w helpu nhw ddod o hyd i'r aur. Gallwch weld ôl y tanciau hyn wrth ymyl afon Gwenlais hyd heddiw.
Roedden nhw'n casglu'r dŵr yn y tanciau, yna'n gadael yr holl ddŵr i fynd yr un pryd dros y cerrig mân, gan olchi'r baw a'r llaid i ffwrdd. Gallen nhw weld unrhyw ddarnau o aur fyddai wedi cael eu gadael ar ôl.
Ardal arall sy'n gyfoethog o ran aur yng Nghymru yw ardal Dolgellau yng ngogledd Cymru. Dechreuwyd cloddio am aur yno tua'r flwyddyn 1860, ychydig flynyddoedd ar ôl y rhuthr aur yng Nghalifornia. Mae ymwelwyr i'r gwaith aur yno heddiw yn cael cyfle i banio am aur.
Er mwyn gwneud hyn, mae angen defnyddio rhyw fath o ridyll neu ogor er mwyn gwahanu'r aur oddi wrth y cerrig.
Gan fod aur mor brin, gallwch ddychmygu ei bod hi'n anodd iawn dod o hyd i aur. Ond o gael yr offer cywir, a gwybod lle i chwilio, gallwch chi ddod o hyd i'r trysor melyn...
Yn gyntaf, mae angen rhidyll neu ogor arnoch chi.
Yn ail, rhaid i chi ddod o hyd i afon lle mae aur. Mae aur yn y rhan fwyaf o afonydd , ond mae rhai â mwy o aur na'i gilydd!
Yn drydydd, rhaid i chi chwilio am le addas yn yr afon. Pan fo llif y dŵr yn uchel, mae'r aur yn cael ei gario i mewn i'r afon o'r bryniau uwchben. Unwaith yn yr afon, mae'n cael ei gario i lawr nes bod yr afon yn arafu. Rhaid i chi chwilio am y lle mae'r afon yn arafu er mwyn dod o hyd i'r lle perffaith i ddod o hyd i aur.
Yr unig ddau beth arall sydd ei angen arnoch chi yw amser a lwc!
Pob hwyl ar y chwilio...
Llun: AlaskaMining, en.wikipedia
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
metelau | mwynau fel haearn, arian, copr | metals |
gwerthfawr | yn werth llawer (o arian) | valuable |
manwl | yn ofalus | detailed |
canrifoedd | cannoedd o flynyddoedd | centuries |
tlysau | pethau sy’n addurno dillad, e.e. broetsh, mwclis | jewellry |
gwario | defnyddio arian | to spend |
llaid | baw, llwch | dirt |
rhuthr | brys, hast | rush |
panio | golchi aur er mwyn ei wahanu oddi wrth gerrig mân | panning |
rhidyll, gogor | padell gyda thyllau ynddo | sieve |