Pentref yn Ne Cymru yw Aberfan, tua 4 milltir o Ferthyr Tydfil. Tyfodd y pentref, fel cymaint o bentrefi yng nghymoedd De Cymru, o ganlyniad i'r diwydiant glo.
Ond ddydd Gwener, Hydref 21, 1966, digwyddodd trychineb enbyd yn Aberfan. Llithrodd tomen o sbwriel o'r gweithfeydd glo gan ddinistrio tai a chartrefi. Lladdwyd 116 plentyn a 28 oedolyn.
Dros gyfnod o 50 mlynedd, roedd gwastraff o faes glo Merthyr wedi cael ei daflu ar Fynydd Merthyr, ac er bod pobl wedi ceisio rhybuddio'r awdurdodau gan ddweud nad oedd y domen enfawr yn ddiogel, anwybyddwyd y rhybuddion.
Ar ôl tridiau o law trwm, roedd y domen wedi gwanio a dechreuodd lithro ar ei thaith drychinebus i lawr i'r pentref. Roedd plant Ysgol Pantglas wedi bod yn y gwasanaeth lle buon nhw'n canu 'All Things Bright and Beautiful'; ond toc ar ôl iddynt gyrraedd eu dosbarthiadau llithrodd y mynydd marwol a'u lladd.
Cafwyd achos llys hir ar ôl y digwyddiad a dedfrydwyd fod bai ar y NCB - (Y Bwrdd Glo - National Coal Board) - am ei esgeulustod. Cynigwyd iawndal o £500 am bob plentyn marw.
Mae'n anodd dychmygu effaith y drychineb ar y pentref. Mae un adroddiad yn nodi nad oedd rhieni'r plant a oroesodd yn gadael i'w plant fynd allan i chwarae wedi'r drychineb, am fod sŵn lleisiau'r plant byw yn codi gormod o hiraeth ar rieni'r plant marw.
Map courtesy of Google
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
trychineb enbyd | damwain ofnadwy | devestating disaster |
anwybyddu (anwybyddwyd) | peidio cymryd sylw | to ignore |
trychinebus | ofnadwy, difrifol | disasterous |
achos llys | edrych ar yr achos drwy lygaid y gyfraith | court case |
dedfryd | dod i gasgliad | sentence, verdict |
esgeulustod | diffyg gofal | negligence |
goroesi | byw i ddweud yr hanes | survive |