Gwybodaeth atal tân

Rhifyn 11 - Tân
Gwybodaeth atal tân

Cartrefi diogel 

e1_1.jpgRydyn ni'n hoffi meddwl bod ein cartrefi ni'n ddiogel rhag tân, ond tybed ydy hynny'n wir? Mae llawer o bethau y gall pawb eu gwneud fel nad oes tân yn digwydd yn y lle cyntaf: 

Canhwyllau

  • Byddwch yn ofalus gyda chanhwyllau. Dylai pob cannwyll fod mewn canhwyllbren fel nad ydyn nhw'n cwympo. Cadwch nhw draw o'r llenni neu glustogau.
  • Peidiwch â gadael plant bach yn y gegin ar eu pennau eu hunain. 

Olew, plygiau a sigaréts

  • Pan fyddwch chi'n defnyddio olew poethi goginio, byddwch yn ofalus iawn. Mae'n gallu mynd ar dân yn hawdd.
  • Peidiwch â rhoi gormod o blygiau mewn socedi trydanol- cadwch un plwg i bob soced.
  • Os oes rhywun yn ysmygu yn eich tŷ chi, dywedwch wrthyn nhw am ddiffodd sigaréts yn llwyr. Gallen nhw fynd ar dân mewn bin os nad ydyn nhw wedi'u diffodd yn iawn. 

Os bydd tân yn digwydd...

...mae llawer o bethau i'ch cadw chi'n ddiogel:

  • Rhowch larymau mwg ar bob lefel yn eich cartref.
  • Gwnewch yn siŵr bod y batris yn eich larwm mwg yn gweithio bob wythnos a newidiwch nhw bob blwyddyn. Peidiwch byth â'u tynnu o'r larwm oherwydd bod eisiau batris ar rywbeth arall.
  • Sut byddech chi'n dianc petai tân yn digwydd? Paratowch lwybr dianc.
  • Peidiwch â cheisio diffodd tân eich hun: gadewch hynny i'r ymladdwyr tân - ewch allan, arhoswch allan a ffoniwch 999.

e1_2.jpg

Achosion tanau:
Achos%
Damweiniau wrth goginio 53
Offer trydanol 11
Llosgi bwriadol 7
Canhwyllau 7
Ysmygu a matsis 5
Offer gwresogi a thanau domestig 5
Plant yn chwarae â thân (nid matsis) 2
Achosion eraill 9

Ffynhonnell y tabl:Fires in the Home: findings from the 2004/05 Survey of English Housing, Ystadegau Gwladol/National Statistics, Ionawr 2006, Hawlfraint y Goron.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
canhwyllbren rhywbeth i ddal cannwyll candlestick
socedi trydanol y tyllau wal i roi plygiau ynddyn nhw electrical sockets
llwybr dianc ffordd o fynd allan o’r tŷ exit route
clustog rhywbeth meddal, addurniadol cushion