Mae Heddlu De Cymru yn dweud bod pedwar o bobl wedi cael eu hachub o dân mewn tŷ ym mhentref Glandŵr.
Cafodd y teulu eu hachub o'r digwyddiad yn Heol-y-Parc. Roedd dyn 43 oed, menyw 40 oed, bachgen 13 oed a merch 11 oed yn y tŷ ar y pryd.
Galwodd y cymdogion am help amser cinio dydd Sadwrn ac roedd y ffenestri yn ddu ac yn boeth pan gyrhaeddodd yr heddlu am 1.15pm.
Daeth injans tân o Abertawe a Phen-y-bont i'r digwyddiad. Cymerodd hi dros awr i ddiffodd y tân. Aeth y dynion tân i mewn i'r tŷ ac achub y teulu. Maen nhw'n meddwl bod y tân wedi dechrau yn y gegin.
Mae'r teulu yn yr ysbyty ond does neb mewn cyflwr difrifol. Dydy'r heddlu ddim yn meddwl bod y tân yn un amheus.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
digwyddiad | rhywbeth sy’n digwydd | event |
cymdogion | pobl sy’n byw drws nesaf | neighbours |
diffodd | stopio tân | put out, extinguish |
cyflwr difrifol | cyflwr ofnadwy | serious condition |
serious condition | ddim yn iawn, wedi'i wneud yn fwriadol | suspicious |