Fydd dim gafr yn eich hosan Nadolig chi eleni ... ond bydd rhai pobl yn derbyn gafr neu eifr fel rhoddion Nadolig.
Byddan nhw'n derbyn y rhoddion hyn drwy gynllun Present Aid.
Cynllun arbennig lle rydych chi'n prynu cerdyn rhoddion i ffrind neu i aelod o'r teulu. Mae'r arian rydych chi'n ei dalu am y cerdyn yn cael ei wario ar rodd ar gyfer pobl dlawd mewn gwlad sy'n datblygu. Felly, rydych chi'n rhoi cerdyn i'ch ffrind neu i rywun yn y teulu ond mae'r cerdyn yn dangos eich bod chi wedi rhoi rhodd arbennig i rywun sydd angen eich help mewn gwlad arall.
Mae llawer o wahanol fathau o roddion ac maen nhw i gyd yn helpu pobl dlawd, e.e.
a hyd yn oed …
Llun: ffynnon: Cymorth Cristnogol/Jodi Bieber
Llun: tŷ o friciau: Cymorth Cristnogol/Susan Barry
Dyma'r manylion am rai o'r rhoddion:
Beth: Rhwydi mosgito
Pris: £15 am dair rhwyd
I bwy: Pobl yn Affrica
Pam: Yn Affrica, mae un plentyn yn marw o falaria bob 45 eiliad. Mosgitos sy'n cario'r clefyd yma ac felly mae angen rhoi rhwyd o gwmpas gwelyau'r plant bob nos er mwyn cadw'r mosgitos allan. Mae'r rhwydi yma'n gallu achub bywyd, felly!
Llun: Cymorth Cristnogol/Sarah Filbey
Beth: Gafr
Pris: £19
I bwy: Pobl Kenya, Affrica
Pam: Mae pobl dlawd y wlad yn cael llaeth i'w yfed a geifr bach i'w gwerthu yn y farchnad.
Llun: Cymorth Cristnogol/Matt Gonzalez-Noda
Beth: Pecyn arbennig i dyfu gardd sy'n arnofio
Pris: £18
I bwy: Pobl Bangladesh
Pam: Oherwydd bod llawer o lifogydd yn digwydd ym Mangladesh, mae'n anodd tyfu bwyd ar y tir. Dyma syniad gwych, felly - tyfu bwyd mewn gardd sy'n arnofio.
Llun: Cymorth Cristnogol/Genevieve Lomax
Beth: Hwyaid
Pris: £31
I bwy: Pobl Bangladesh
Pam: Mae'r hwyaid yn rhoi wyau i'r bobl eu bwyta, sy'n wych, gan fod tyfu cnydau mor anodd ym Mangladesh.
Llun: Cymorth Cristnogol/Genevieve Lomax
Mae'n bosib prynu'r rhoddion hyn:
Diolch i Gymorth Cristnogol am y wybodaeth a'r lluniau.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
cerdyn rhoddion | cerdyn sy’n nodi swm arbennig o arian y gallwch chi ei wario mewn siop neu ar y we fel arfer | gift card |
dyfrhau | rhoi dŵr i blanhigion | to water |
cnydau | lluosog cnwd - planhigion sy’n rhoi bwyd | crops |
clefyd | salwch | disease |
arnofio | aros ar wyneb y dŵr | to float |
llifogydd | llawer iawn o ddŵr ar y tir | floods |
hyrwyddo | rhoi gwybodaeth am rywbeth er mwyn tynnu sylw ato | to promote |