Beth am roi cynnig ar y rysáit yma?
300g o flawd plaen
1 llond llwy de wastad o garbonad soda
2 llond llwy de wastad o bowdr sinsir
90g o fenyn
80g o siwgr brown
125g o driog melyn
2 dun Swiss roll wedi eu hiro (maint y tun yw tua 35cm x 25cm)
Torrwr bisgedi siâp calon
Eisin (gogrwch 125g siwgr eisin a'i gymysgu ag un llwy fawr o ddŵr wedi'i arllwys i mewn yn raddol)
Ffwrn/Popty 180 C Ffan 160 C Nwy 4
1 Mewn powlen, gogrwch y blawd, y soda a'r sinsir.
2 Mewn sosban, toddwch y menyn, y siwgr brown a'r triog yn araf bach.
3 Tynnwch y sosban oddi ar y gwres a gadael i bopeth oeri am ychydig.
4 Arllwyswch gymysgedd y sosban i'r blawd ac ati yn y bowlen a'i gymysgu'n dda.
5 Tylinwch y toes nes ei fod yn llyfn.
6 Gadewch i'r cyfan oeri am 30 munud.
7 Cynheswch y ffwrn.
8 Rholiwch y toes allan i drwch o 5mm.
9 Torrwch y calonnau allan â thorrwr siâp calon a'u gosod ar y tuniau pobi.
10 Coginiwch am 5 munud, yna gosodwch y bisgedi ar rwyll oeri.
11 Addurnwch ag eisin.
Mae'r traddodiad o wneud calonnau cacen sinsir yn mynd yn ôl i'r 16eg a'r 17eg ganrif. Roedd y calonnau'n cael eu gwneud mewn mowldiau pren. Yna, roedden nhw'n cael eu rhoi i gariadon.
Yn yr Almaen, yn enwedig adeg y Nadolig, mae stondinau'n gwerthu calonnau cacen sinsir enfawr gyda negeseuon arbennig wedi'u hysgrifennu mewn eisin lliwgar. Mae'r person sy'n derbyn y galon i fod i'w gwisgo drwy roi'r rhuban dros ei ben.
Llun: oxfordian.world
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
carbonad soda | mae hwn yn gwneud i’r bisgedi godi | bicarbonate of soda |
triog melyn | hylif trwchus melyn | golden syrup |
iro | rhoi saim dros rywbeth | to grease |
gogri (hidlo) | rhoi rhywbeth drwy ogr | to sieve |
tylino | gweithio rhywbeth gyda’ch dwylo | to knead |
rhwyll oeri | rhywbeth i oeri cacennau | wire rack |