Cariadon Enwog

Rhifyn 13 - Cariad
Cariadon Enwog

Merch o wlad Pwyl oedd Maria Slodowska. Cafodd ei geni yn Warsaw ym 1867. Roedd ganddi ddiddordeb mawr yn y gwyddorau, a bu'n astudio ym Mhrifysgol Warsaw, prifddinas gwlad Pwyl. Ym 1891, pan oedd yn 24 oed, symudodd i Baris i astudio ar gyfer gradd uwch ym mhrifysgol Sorbonne. Yno, roedd yn cael ei galw'n 'Marie'.

Byddai Marie yn gweithio'n galed iawn ac yn treulio oriau yn y llyfrgell ac yn y labordy. Roedd Pierre Curie yn bennaeth un o'r labordai, a sylwodd ar y fyfyrwraig weithgar hon ym 1894. Cwympodd Pierre dros ei ben a'i glustiau mewn cariad â Marie, ond roedd hi'n gyndyn o ddechrau carwriaeth gyda'r pennaeth. 

Gwnaeth hyn i Pierre fod hyd yn oed yn fwy penderfynol. Gofynnodd i Marie ei briodi sawl gwaith cyn iddi gytuno. Priodon nhw yn 1895 a chawson nhw ddwy ferch. Roedd Marie yn siarad Pwyleg â nhw ac yn mynd â nhw i ymweld â'r teulu yng ngwlad Pwyl yn gyson.

Yn ogystal â bod yn ŵr a gwraig, daeth Pierre a Marie Curie yn bartneriaid yn y labordy. Mae'n debyg fod eu cariad at ei gilydd yn eu gyrru i weithio'n galetach.

Ym 1903, enillon nhw Wobr Nobel Ffiseg am ddarganfod ymbelydredd, gyda'r gwyddonydd Henri Becquerel. Roedd y ddau wrth eu bodd â radiwm, metel  llawn ymbelydredd a oedd yn pefrio'n las. Bydden nhw'n cario radiwm o gwmpas gyda nhw, ac yn ei gadw wrth ochr y gwely, hyd yn oed. Ar y pryd doedd neb yn sylweddoli pa mor beryglus oedd ymbelydredd radiwm i iechyd pobl, er ei fod yn ddefnyddiol ar gyfer Pelydr-X.

Ar ôl i Pierre farw ym 1906, daliodd Marie ati i weithio ac ym 1911, enillodd Wobr Nobel arall - mewn cemeg y tro hwn. Hi oedd y fenyw gyntaf i ennill y wobr mewn dau faes gwahanol.

Bu Marie farw ym 1934 o salwch gwaed sy'n cael ei achosi gan ymbelydredd.

Marie Curie - dynes enwog a dynes hael

e2_1.jpgRoedd Marie yn gwybod ei bod hi'n anodd i fenywod symud ymlaen yn eu gyrfa ym maes ffiseg a chemeg. Felly byddai hi'n helpu menywod drwy roi gwaith iddyn nhw yn ei labordai. Hefyd, byddai hi'n rhoi arian y gwobrau roedd hi'n eu hennill yn ôl i'r mannau lle roedd hi'n gweithio.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
y gwyddorau pynciau gwyddonol the sciences
cyndyn o wneud rhywbeth ddim yn barod i wneud rhywbeth reluctant to do something
carwriaeth mynd allan cyn priodi courtship
Gwobr Nobel gwobr sy’n cael ei rhoi gan bwyllgor yn Swedena Norwy Nobel Prize
ymbelydredd - radioactivity
tystiolaeth rhywbeth sy’n dangos bod rhywbeth yn wir evidence