h3_1.jpgFfeithiau sydyn am y galon. Mae'r galon:

  • tua'r un maint â gellygen.
  • yn pwyso tua'r un faint â dau afal.
  • yn pwmpio gwaed fel ei fod yn mynd unwaith o gwmpas y corff mewn tua munud.
  • yn curo 60 i 100 gwaith y funud. Mae calon babanod newydd anedig yn curo rhwng 130 a 160 gwaith y funud. 
  • yn curo tua 100,000 gwaith y dydd, a 2.5 biliwn o weithiau yn ystod eich bywyd.

Clefyd y galon

Os yw rhywun yn bwyta gormod o fraster, mae'n crynhoi yn y rhydwelïau. Mae'r galon yn gorfod gweithio'n galetach i bwmpio'r gwaed drwyddyn nhw. Yn y pen draw, mae'r person yn dioddef o glefyd y galon ac efallai'n cael trawiad ar y galon.

Sut mae osgoi clefyd y galon:

  • ymarfer yn gyson- hyd at 30 munud y dydd. Bydd y galon yn curo'n galetach ac yn dod yn gryfach.
  • peidio â bwyta gormod o fraster- bydd hyn yn cadw'r rhydwelïau'n glir
  • byw'n iach nawr a phan fyddwch chi'n oedolyn - peidio ag ysmygu na chymryd cyffuriau o gwbl; peidio ag yfed gormod o alcohol.

Sut datblygodd y galon fel symbol cariad?

Roedd pobl yn arfer meddwl bod enaid person yn trigo yn y galon. Felly, roedden nhw'n credu mai yn y galon roedd person yn gwneud penderfyniadau ysbrydol, moesol, ac emosiynol.

Dros y canrifoedd, daeth y galon yn symbol o gariad. Fel arfer, mae'r galon yn goch, lliw sy'n cyfleu gwaed a hefyd emosiwn ac angerdd.

h3_3.jpg

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
gellygen ‘persen’ a pear
newydd anedig newydd gael ei/eu g/eni newborn
crynhoi casglu to accumulate
rhydwelïau y pibellau y mae’r gwaed yn mynd drwyddyn nhw arteries
enaid ‘ysbryd’ person soul
trigo byw to reside
cyfleu awgrymu to suggest, convey
angerdd teimlad cryf iawn passion