Santes Dwynwen

Rhifyn 13 - Cariad
Santes Dwynwen

Dwynwen yw nawddsant cariadon Cymru, a byddwn yn dathlu ei gŵyl ar 25 Ionawr. Roedd hi'n un o ferched y brenin Brychan yn y bumed neu'r chweched ganrif.

Mae un stori'n sôn ei bod hi wedi cerdded ar draws Môr Iwerddon am fod arni ofn Maelgwn Gwynedd.

Y stori enwocaf amdani yw ei bod wedi cwympo mewn cariad â Maelon Dafodrill. Dyweddïon nhw, ond torrodd Maelon y dyweddïad a thorri calon Dwynwen ar yr un pryd. Cosbodd Duw Maelon drwy ei rewi.

Wedyn, rhoddodd Duw dri dymuniad i Dwynwen, a dymunodd hi:

1)      fod Maelon yn cael ei ddadrewi;

2)      ei bod hi'n cael gwrando ar weddïau unrhyw un oedd yn glaf o gariad; ac

3)      ei bod hi'n cael byw fel lleian ar ei phen ei hun ar Ynys Llanddwyn.

Mae ffynnon Santes Dwynwen ar Ynys Llanddwyn ac roedd pobl yn credu eu bod nhw'n cael eu hiacháu yno.

Cariad ym myd yr adar

h2_1.jpg

Ym myd yr adar, y gwryw sy'n gwneud yr ymdrech i gyd!

Mae sawl enghraifft ym myd yr adar lle:

  • mae gan y ceiliog blu llachar
  • mae'r ceiliog yn dawnsio i ddenu'r iâr
  • mae'r ceiliog adeiladu nyth mawr i greu argraff ar yr iâr
  • mae'r ceiliog yn curo ei adenydd neu'n clecian ei big i wneud sŵn mawr.
  • Mae'r ceiliog yn rhoi anrheg (e.e. Glas y Dorlan yn rhoi pysgodyn) i'r iâr 

Bydd yr iâr yn dewis y ceiliog sydd:

  • â'r plu mwyaf llachar
  • sy'n dawnsio orau
  • sy'n adeiladu'r nyth mwyaf
  • sy'n gwneud y sŵn mwyaf
  • sy'n rhoi'r pysgodyn mwyaf iddi

Glas y Dorlan

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
esgyrn mwy nag un asgwrn bones
nawddsant sant arbennig i rywbeth patron saint
dyweddïo addo priodi to become engaged
dyweddïad addewid priodi engagement
dadrewi troi’n ôl o fod wedi rhewi defrost
gweddïau mwy nag un weddi prayers
yn glaf o gariad mewn poen achos cariad lovesick
lleian un o grŵp o ferched sy’n byw bywyd yn addoli Duw yng nghwmni ei gilydd nun
iacháu gwneud yn iach to cure
gwryw y dyn male
benyw y ferch female
creu argraff gwneud i rywun arall feddwl eich bod yn dda to create an impression