Llwyau Caru

Rhifyn 13 - Cariad
Llwyau Caru

Heddiw, bydd dynion ifanc yn rhoi siocledi neu flodau i ddangos eu bod yn hoffi merch. Ond dychmygwch sut roedd hi ganrifoedd yn ôl. Doedd y siopau ddim yn gwerthu siocledi a blodau, felly roedd rhaid gwneud rhywbeth i'w rhoi i ferch. Roedd rhai dynion yn gwneud cacennau neu felysion, ond roedd rhai'n rhoi anrheg arbennig, sef llwy garu neu lwy serch.

Doedd dim ceir, beiciau modur, radio, teledu, ffilmiau na gemau cyfrifiadur ganrifoedd yn ôl. Felly, ar ôl diwrnod caled o waith, byddai dynion ifanc yn treulio oriau yn cerfio llwy i'w rhoi i ferch. Wrth gymryd y llwy, byddai'r ferch yn dangos bod ganddi ddiddordeb yn y dyn ifanc. Wedyn, byddai'r ddau'n dechrau 'canlyn'.

Nid yng Nghymru'n unig roedd hyn yn digwydd. Llwyau pren roedd pobl cefn gwlad yn eu defnyddio i fwyta, felly roedd pobl yn eu cerfio beth bynnag. Roedd y llwy'n dangos bod y dyn ifanc yn gallu bwydo ei gariadferch.  Wrth greu llwy hardd, gymhleth a chain, roedd y cerfiwr yn dangos maint ei gariad at y ferch.

1667 yw dyddiad y llwy gynharaf yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan. Cadwodd y traddodiad i fynd tan ddiwedd y 19eg ganrif, pan symudodd llawer o bobl o'r wlad i weithio mewn chwareli a phyllau glo.

Erbyn heddiw, mae pobl yn prynu llwyau caru yn anrheg i bobl sy'n priodi. Hefyd mae twristiaid yn hoff iawn o brynu llwyau caru.  Mae gemwaith llwyau caru yn boblogaidd iawn gan grefftwyr arian ac aur fel Rhiannon, Tregaron.

Beth yw ystyr rhai patrymau traddodiadol?

llwy-garu-2b.jpgCalon   Un galon = y ferch biau calon y dyn ifanc

Dwy galon = mae'r ddau berson yn caru ei gilydd

Olwyn / Rhaw = mae'r dyn ifanc yn barod i weithio er mwyn ei gariadferch

Allwedd, Twll y Clo, Tŷ = y ferch biau'r allwedd i galon y dyn ifanc

Angor = mae'r dyn ifanc yn dangos ei fod wedi cyrraedd y man lle mae eisiau aros, fel llong wedi cyrraedd porthladd

Clychau = mae'r cerfiwr eisiau clywed clychau'r llan (yr eglwys). Hynny yw, mae eisiau priodi'r ferch.

Dail, Blodau = mae'r ddau gariad yn mynd i dyfu gyda'i gilydd

Tarian = mae'r dyn ifanc yn barod i amddiffyn y ferch

Adar = adar serch

Diemwnt, Pedol = lwc dda

Cadwyn = ffrwythlondeb, teyrngarwch. Nifer y dolenni = nifer y plant y byddai'r cerfiwr yn hoffi eu cael

Peli Bychain mewn cawell = nifer y plant y byddai'r cerfiwr yn hoffi eu cael.

llwy-garu-1b.jpg

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
ganrifoedd yn ôl sawl can mlynedd yn ôl sawl can mlynedd yn ôl
cerfio gwneud siâp allan o bren to carve
canlyn dau yn mynd allan gyda’i gilydd to court
traddodiadol yn dilyn traddodiad, arfer traditional
porthladd harbwr port
angor darn mawr o ddur ar gadwyn, i fachu llong ar wely’r môr anchor
cynharaf mwyaf cynnar earliest