Calonnau Cacen Sinsir

Rhifyn 13 - Cariad
Calonnau Cacen Sinsir

Beth am roi cynnig ar y rysáit yma? 

Cynhwysion

300g o flawd plaen

1 llond llwy de wastad o garbonad soda

2 llond llwy de wastad o bowdr sinsir

90g o fenyn

80g o siwgr brown

125g o driog melyn

 

Bydd angen y canlynol arnoch:

2 dun Swiss roll wedi eu hiro (maint y tun yw tua 35cm x 25cm)

Torrwr bisgedi siâp calon

Eisin (gogrwch 125g siwgr eisin a'i gymysgu ag un llwy fawr o ddŵr wedi'i arllwys i mewn yn raddol)

 

Ffwrn/Popty       180 C       Ffan 160 C     Nwy   4

Dull

1      Mewn powlen, gogrwch y blawd, y soda a'r sinsir.

2      Mewn sosban, toddwch y menyn, y siwgr brown a'r triog yn araf bach.

3      Tynnwch y sosban oddi ar y gwres a gadael i bopeth oeri am ychydig.

4      Arllwyswch gymysgedd y sosban i'r blawd ac ati yn y bowlen a'i gymysgu'n dda.

5      Tylinwch y toes nes ei fod yn llyfn.

6      Gadewch i'r cyfan oeri am 30 munud.

7      Cynheswch y ffwrn.

8      Rholiwch y toes allan i drwch o 5mm.

9      Torrwch y calonnau allan â thorrwr siâp calon a'u gosod ar y tuniau pobi.

10    Coginiwch am 5 munud, yna gosodwch y bisgedi ar rwyll oeri.

11    Addurnwch ag eisin.

O le ddaw'r traddodiad?

Mae'r traddodiad o wneud calonnau cacen sinsir yn mynd yn ôl i'r 16eg a'r 17eg ganrif. Roedd y calonnau'n cael eu gwneud mewn mowldiau pren. Yna, roedden nhw'n cael eu rhoi i gariadon.

Yn yr Almaen, yn enwedig adeg y Nadolig, mae stondinau'n gwerthu calonnau cacen sinsir enfawr gyda negeseuon arbennig wedi'u hysgrifennu mewn eisin lliwgar. Mae'r person sy'n derbyn y galon i fod i'w gwisgo drwy roi'r rhuban dros ei ben. 

c3_1.jpg

Llun: oxfordian.world

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
carbonad soda mae hwn yn gwneud i’r bisgedi godi bicarbonate of soda
triog melyn hylif trwchus melyn golden syrup
iro rhoi saim dros rywbeth to grease
gogri (hidlo) rhoi rhywbeth drwy ogr to sieve
tylino gweithio rhywbeth gyda’ch dwylo to knead
rhwyll oeri rhywbeth i oeri cacennau wire rack