Serch a Chariad yn yr Hen Benillion

Rhifyn 13 - Cariad
Serch a Chariad yn yr Hen Benillion

Mae'r hen benillion rhwng 300 a 500 mlwydd oed. Roedd pobl yn eu hadrodd wrth ei gilydd a hefyd yn eu canu i gyfeiliant y delyn (penillion telyn yw'r enw arall arnyn nhw). Yn y ganrif ddiwethaf, cyhoeddodd T H Parry-Williams gasgliad mawr o ryw 750 pennill. Maen nhw'n ymdrin â themâu fel doethineb, natur, profiad, ac mae nifer fawr ar y thema serch a chariad. 

 

Dyma rai ohonyn nhw.

1.

Dacw long yn hwylio'n hwylus

Heibio i'r trwyn ac at yr ynys,

Os fy nghariad i sydd ynddi,

Hwyliau sidan glas sydd arni.

 

2.

Hardd yw gwên yr haul yn codi

Gyda choflaid o oleuni,

Hardd y nos yw gwenau'r lleuad,

Harddach ydyw grudd fy nghariad.

 

3.

Tros y môr y mae fy nghalon,

Tros y môr y mae f'ochneidion;

Tros y môr y mae f'anwylyd,

Sy'n fy meddwl i bob munud.

 

4.

Tra bo eglwys yn Llanelli,

A'r wennol fach yn hedeg drosti,

A thra bo gwyngalch ar ei thalcen,

Caraf i fy siriol seren.

 

5.

Tri pheth sydd yn anodd imi,

Cyfri'r sêr pan fo hi'n rhewi,

Rhoi fy llaw ar gwr y lleuad,

A gwybod meddwl f'annwyl gariad.

 

6.

Mae gennyf gariad sydd yn fychan,

Mae yn methu cyrraedd cusan,

Y mae'n gweiddi am stôl i ddringo,

Yn fy myw ni chawn un iddo.

 

7.

Geiriau mwyn gan fab a gerais,

Geiriau mwyn gan fab a glywais;

Geiriau mwyn sydd dda dros amser,

Ond y fath a siomodd lawer.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
coflaid cwtsh embrace
grudd gair barddonol am ‘boch’ cheek
ochneidion sawl ochenaid ‘Och!’ sighs
hedeg hedfan to fly
gwyngalch lliw gwyn sy’n cael ei roi ar adeiladau whitewash
siriol llawen, hapus cheerful
cwr (cyrion) ymyl edge
gwadn aradr y darn o’r aradr sy’n torri’r tir plough sole
geiriau mwyn geiriau annwyl, caredig gentle words
y fath geiriau o’r fath, geiriau fel hyn such (words)