Rwy'n ddarn o glai . . .
Tro fi;
Rwy'n storom . . .
Dofa fi;
Rwy'n gerdd . . .
Sgrifenna fi;
Rwy'n wên . . .
Gwena fi;
Rwy'n filltir . . .
Cerdda fi;
Rwy'n ddeigryn . . .
Wyla fi;
Rwy'n dy garu . . .
Cara fi;
Rwy'n wallgo' . . .
Clo fi lan . . .
Allan o: Pws, Dewi Pws, Y Lolfa. (Allan o brint)Yn y gerdd hon, mae Dewi Pws wedi ysgrifennu 'storom', nid 'storm'. Wrth siarad, rydyn ni'n aml yn gwthio llafariad(a, e, i, o, u, w, y) arall i mewn rhwng dwy gytsain fel 'rm'.
Dyma ragor o enghreifftiau - llenwch y bylchau hefyd!:
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
dofi | gwneud yn ddof, fel nad yw’n wyllt | to tame |
deigryn | diferyn o ddŵr sy’n dod i’r llygad pan fyddwch yn crio | tear |
gwallgof | ddim yn gall | mad |
sawdl | rhan gefn gwaelod eich troed | heel |