Jambo ydw i ac rydw i'n gallu siarad ac ysgrifennu Esperanto! Dyma'r iaith i bawb yn y byd!
Mae Esperanto yn iaith NIWTRAL.
Mae'n perthyn i bob gwlad HAWDD.
Fe fedri di ei dysgu yn gyflym LLAWN HWYL.
Fe fyddi di'n gallu cyfathrebu gyda phobl o bob man yn y byd.
Dilyna fi i weld pa mor hawdd ydy hi!
Mae pob enw yn gorffen gyda 'o'
birdo - aderyn
domo - tŷ
hundo - ci
I wneud enw lluosog mae'n syml! Dim ond ychwanegu 'j'
Amikoj - ffrindiau
Arboj - coed
Libroj - llyfrau
Mae pob ansoddair yn gorffen gyda 'a'
Varma -cynnes
Sana - iach
Granda - mawr
I greu ansoddair croes ei ystyr y cwbl sy'n rhaid ei wneud ydy rhoi 'mal' o'i flaen
Alta = tal >Malalta - byr
Bela = tlws/del > Malbela - hyll
Nova = newydd > Malnova - hen
Mae pob berf yn gorffen gyda 'i'
Doni - rhoi
Vidi - gweld
Havi - cael
Tyrd gyda fi i gyfarfod â phobl sy'n siarad Esperanto.
Roedd fy hen ewythr yn arbenigwr ar Esperanto ac rydw innau wrth fy modd gydag ieithoedd. Yn y coleg fe wnes i astudio Rwsieg ac rydw i'n gallu siarad Almaeneg, Ffrangeg ac Eidaleg. Mae Esperanto yn llawer mwy syml na'r un o'r rheiny.
Os oes arnoch eisiau teithio'r byd a siarad gyda phobl yn gyfartal dylech ddysgu Esperanto.
Mewn byd ble mae gwledydd yn dal i ffraeo efallai y byddai un iaith yn ein huno.
Mae mwy na 2,000 o bobl yn siarad Esperanto ym Mhrydain a rhwng 500,000 a dwy filiwn yn y byd. Felly, mae'n rhaid bod rhyw werth iddo.
Rydw i'n dysgu Esperanto mewn ysgol gynradd yn Lloegr. Mae'n rhoi dechrau gwych ar ddysgu iaith i'r disgyblion oherwydd mae'n hawdd ac mae'n rhoi hyder iddyn nhw. Maen nhw'n cael y teimlad o 'Rydw i'n gallu gwneud hyn'.
Lol i gyd! Duw a'n helpo os byddant yn dechrau dysgu Esperanto yn ein hysgolion. Dydy'r iaith ddim yn perthyn i unrhyw wlad felly does dim diwylliant yn perthyn iddi, dim llyfrau na hanes. Gwastraff amser yw ei dysgu. Byddai dysgu iaith dramor ychwanegol fel Sbaeneg neu Almaeneg yn llawer mwy o werth. Neu beth am ddysgu siarad ac ysgrifennu Cymraeg a Saesneg yn gywir yn lle chwarae o gwmpas gydag iaith ffug?
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
enw lluosog | mwy nag un | plural noun |
ansoddair | gair i ddisgrifio | adjective |