Chi, yn eich arddegau, ydy'r rhai sydd fwyaf tebygol o gael rhywun yn dwyn eich ffôn. Mae hynny yn boen. Nid dim ond y ffôn fyddwch yn ei golli ond y rhifau, y negeseuon, eich lluniau a phopeth arall rydych chi wedi llwytho.
Cario eich ffôn o fan i fan
Diogelu eich ffôn
Mae cadw cofnod o wneuthuriad a model eich ffôn a rhif y teclyn ei hun (rhif IMEI yn syniad da.Mae'r rhif i'w weld tu ôl i'r batri, neu drwy ffonio *#06#'. Cadwch y manylion hyn mewn man diogel ac ar wahân i'ch ffôn. Bydd yn rhaid i chi eu rhoi i'ch darparwr gwasanaeth os byddwch yn colli eich ffôn neu os bydd yn cael ei ddwyn.
Mae gan bob ffôn nodweddion diogelwch. I ddeall sut i'w defnyddio edrychwch ar lawlyfr cyfarwyddiadau eich ffôn.Er enghraifft, gallwch roi rhif pin ynddo ac yna rhaid teipio'r rhif hwn cyn y gallwch chi ffonio. Dim ond chi fedr ddefnyddio'r ffôn wedyn.
Gallwch gofrestru eich ffôn hefyd gyda'r Gofrestr Ffonau Symudol Genedlaethol. Bydd hyn yn help i'r heddlu ddychwelyd eich ffôn i chi os caiff ei ddwyn. Dylech hefyd gofrestru eich ffôn gyda darparwr eich rhwydwaith.
Os byddwch yn colli eich ffôn neu os caiff ei ddwyn rhowch wybod i'r heddlu ar unwaith. Dylech hefyd gysylltu â darparwr eich rhwydwaith. Byddant hwy yn gallu blocio'r ffôn ei hun a'r cerdyn SIM. Fydd neb yn gallu eu defnyddio wedyn.
Mae'r heddlu yn cau'r rhwyd am ladron ffonau symudol. Mae hyn yn golygu bod mwy o obaith i chi gael eich ffôn yn ôl.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
gwneuthuriad | pwy sydd wedi gwneud y ffôn neu sut un ydy ef | make |
cau'r rhwyd | cadw mwy o reolaeth | closing the net |