Gwneud pethau yn ddigidol ydy'r ffordd hawddaf o ddysgu!  Ar gael i chi unrhyw bryd mewn unrhyw le! Nid eich cadw mewn cysylltiad yn unig a wna'r ffonau smart ond gwneud y gwaith drosoch chi! h1_1 (3).jpg

Mae'r manteision yn ddirifedi! Cewch fynediad cyflym i'r we 24-7 o drên, o fws, o westy, o dafarn... ble bynnag y byddwch a does dim angen i chi gadwyno eich hun wrth gyfrifiadur neu gario gliniadur gyda chi i bobman.

Gellwch ddefnyddio rhaglenni dysgu ble bynnag y byddwch a dysgu iaith. Mae cyfieithu ar Google yn ffordd wych o ddysgu geiriau, ymadroddion, gramadeg ac atalnodi Saesneg.  Efallai eich bod yn cael paned o de mewn caffi ac yn dod ar draws gair dieithr wrth ddarllen y papur. Agorwch y geiriadur ar y ffôn a dyna gael yr ystyr ar unwaith! Dim angen cario geiriadur i bobman bellach!

Gwario punnoedd ar lyfrau neu dalu dirwyon  hyd eich braich yn y llyfrgell? Na, dim mwy! Clic a lawrlwytho eich hoff lyfrau a dyna chi! Maent yno am ddim i chi! A does dim angen colli eich tymer wrth chwilio am le i barcio yn y dref!

Rydyn ni'n rhygnu ymlaen ac ymlaen am ailgylchu papur ac yn teimlo'n falch o'n hunain  pan welwn ni lond bocs o bapurau yn barod i gael eu hailgylchu. Ond pam maen nhw yno yn y lle cyntaf? Mae papurau fel yrIndependentaThe Daily Telegraphar gael ar y ffôn a does dim angen eu prynu!

A pha ffordd well o ddysgu iaith na thrwy chwarae gemau? Rydych yn dysgu geirfa ac yn adeiladu eich sgiliau mewn dull hwyliog! Mae Scrabble a Novel Word Games h4_2.jpgSuper Pack 1 ar gyfer Palm yn boblogaidd fel llawer o gemau eraill sydd am ddim. Cymrwch eich amser i chwilio am gemau sydd at eich dant a mwynhewch!

Neu beth am ddechrau gyda llun? Yna ewch i chwilio am destun sy'n rhoi gwybodaeth am y llun - boed yn berson, yn lle, neu yn ddigwyddiad. Mae hyn yn cryfhau eich sgiliau darllen Saesneg a'ch gwybodaeth. Gellwch weld neu ddefnyddio lluniau yn rhad ac am ddim o  Flickr-Yahoo! a MobileMe Gallery-Apple Inc., Nikon Learn & Explore -Nikon, Inc. ymysg eraill.

Dull arall o ddysgu Saesneg ar eich Smartphone ydy gwylio fideo. Gwrandewch ar siaradwyr Saesneg a chanolbwyntiwch ar eu hynganiad. Dysgwch ystyr y geiriau trwy eu matsio gyda'r hyn a welwch ar y sgrîn. Gellwch hyd yn oed gael apps o'ch hoff nofelau yn cael eu darllen, sef audiobook.

Felly, os am ddysgu iaith a mwynhau ar yr un pryd, ewch ar eich Smartphone a byddwch yn smart go iawn!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
dirifedi amhosibl eu cyfrif countless
dirwyon cosb ariannol fines