Wyt ti wedi ysgrifennu llythyr?

Rhifyn 14 - Cyfathrebu
Wyt ti wedi ysgrifennu llythyr?
Loading the player...

Roedd llawer mwy o ysgrifennu llythyrau ers talwm. Flynyddoedd maith yn ôl byddai negeswyr yn cario llythyrau o le i le. Yn y 6ed ganrif Cyn Crist, ym Mhersia, roedden nhw'n cario negeseuon 100 milltir y dydd e3_1 (3).jpgtrwy newid ceffylau. Yng Ngroeg roedd athletwyr yn cario llythyrau. Rhedodd athletwr o'r enw Philonides, 148 milltir mewn un diwrnod!

Pan gafodd y Swyddfa Bost ei chreu ym Mhrydain yn 1860 y Royal Mail, sef y Goets Fawr oedd yn cario llythyrau a pharseli o Lundain i Gaergybi. 

Ar gefn ceffyl neu ar droed y byddai postmyn yn cario llythyrau ar y dechrau. Wedyn daeth y beic ac erbyn heddiw y fan. Ond beth fyddwn ni'n ei gael trwy'r post? Ychydig iawn, iawn o lythyrau personol, llai a llai o gardiau post gan bobl ar wyliau a gormod o lythyrau yn gofyn am arian neu gyfraniad neu yn hysbysebu.

Ond a ddaw ysgrifennu llythyrau i ben yn gyfangwbwl? Ai dim ond mewn amgueddfa y byddwn ni'n gweld blwch postio? 

Bu ein gohebydd yn holi pobl ar y stryd yn Llandudno, gwrandewch ar y clip sain i glywed eu hymateb.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
ffafrau cymwynasau favours