Yr Heddlu ar Rwydweithiau Cymdeithasol

Rhifyn 14 - Cyfathrebu
Yr Heddlu ar Rwydweithiau Cymdeithasol

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gwahodd pobl i ymuno â nhw ar dudalen Facebook swyddogol yr heddlu neu i'w dilyn ar Twitter. twitter-facebook.jpg

Drwy'r safleoedd rhyngweithio cymdeithasol hyn mae'n bosibl i unrhyw un yn unrhyw ran o'r byd gael diweddariadau rheolaidd ar yr hyn sy'n digwydd ar draws Gogledd Cymru. Mae'r dudalen Facebook hefyd yn cynnwys newyddion, manylion am yr ymgyrchoedd diweddaraf a gwybodaeth am sut i riportio troseddau. Mae hefyd yn cysylltu â safleoedd eraill fydd yn rhoi gwybodaeth am amrywiaeth eang o weithgareddau'r heddlu.

Meddai Swyddog Marchnata ac Ymgysylltiad Cymunedol Heddlu Gogledd Cymru, Delyth Jones: "Mae rhwydweithio cymdeithasol yn ffordd ardderchog o gyfathrebu'n gyflym ac yn eang. Yn wyneb y ffaith bod niferoedd cynyddol o bobl yn cyfathrebu trwy safleoedd fel Facebook a Twitter, rydym wedi manteisio ar y cyfle hwn i'w defnyddio i roi'r newyddion diweddaraf  i'r cyhoedd ac i apelio am wybodaeth.

"Mae ein tudalen Facebook wedi bod yn hynod o lwyddiannus ers i ni ei sefydlu yn yr haf 2010. Ar hyn o bryd mae gennym 3,666 o bobl yn ein hoffi a 8,890 o ddilynwyr ar Twitter ac mae'r nifer yn cynyddu'n ddyddiol.

"Mae'n ffordd ardderchog o gysylltu â phobl. Mae'n syml i'w ddefnyddio ac er bod gennym groeso agored, rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o gysylltu'n ehangach â'n cymunedau, i ddeall eu hanghenion yn well ac i gael adborth ar ein gwasanaethau. Mae safleoedd rhwydweithio cymdeithasol yn rhad. n-wales-twitter.jpg 

Meddai Rheolwr Gwefan yr Heddlu, Shaun Barritt: "Mae pob cenhedlaeth erbyn hyn yn defnyddio safleoedd rhwydweithio a byddem wrth ein bodd clywed gan bobl sut y byddent yn hoffi gweld ein tudalennau yn datblygu.

"Hyd yn oed ar adeg pan fo arian yn brin byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn dulliau newydd a chost effeithiol o wneud gwahaniaeth i bobl ar draws Gogledd Cymru."

I ymuno â'r Heddlu ar eu tudalennau ar Facebook a Twitter, dilynwch y dolenni o wefan yr Heddlu neu teipiwch www.facebook.com/NWPolice neuwww.twitter.com/NWPolice.

 

 

 

 

 

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
safleoedd rhyngweithio cymdeithasol gwefannau cymdeithasol fel Facebook, Twitter ac ati on-line social networks
cynyddol mwy a mwy increasing
adborth cael barn a gwybodaeth feedback
diweddariadau y diweddaraf updates